25 Tach 2022

#YGôl Cefnogwch y tîm sy’n rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched

Mae uned  Grŵp Cynefin, Gorwel, yn galw ar gymunedau gogledd Cymru i gefnogi ymgyrch Diwrnod Rhuban Gwyn eleni – #YGôl – i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod  a merched. Fel rhan o’r ymgyrch, cynhaliodd Gorwel ddigwyddiad yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon i godi ymwybyddiaeth o’r effaith cam-drin domestig. Eleni mae Diwrnod y Rhuban Gwyn […]

11 Hyd 2022

Partneriaid yn dod at ei gilydd i nodi dechrau gwaith gwerth £12.2 miliwn yn Rhuthun

Daeth holl bartneriaid cynllun gwerth £12.2miliwn i ehangu tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin  yn Llys Awelon, Rhuthun, at ei gilydd i dorri tywarchen i nodi dechrau’r gwaith. Bu Prif Weithredwr Grŵp Cynefin Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych Graham Boase, Cyfarwyddwr Read Constructions Wiliam Jones, a swyddogion allweddol eraill sy’n ymwneud â’r prosiect […]

03 Hyd 2022

Lansio prosiect atal digartrefedd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn

Mae gwasanaeth newydd i bobl hŷn yn cael ei gynnig yn Ynys Môn, a lansiwyd ar 1 Hydref 2022 – Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn – gan uned fusnes  Grŵp Cynefin, Gorwel. Mae Prosiect Pobl Hŷn Môn wedi’i gomisiynu gan Gyngor Ynys Môn, a’i ddarparu gan Gorwel. Bydd yn darparu cefnogaeth ddwyieithog saith diwrnod yr wythnos […]

10 Awst 2022

Landlord newydd i denantiaid ym Maldwyn

Mae Grŵp Cynefin bellach yn landlord newydd ar dros hanner cant o gartrefi ym Maldwyn. Mae hyn yn dilyn cwblhau trosglwyddo 53 o gartrefi ym Machynlleth a Llanbrynmair o reolaeth Wales & West Housing. Mae cymryd rheolaeth o’r stoc, sy’n gyfuniad o dai cymdeithasol a thai gwarchod, yn golygu bod ardal Grŵp Cynefin yn fwy […]

04 Awst 2022

Prif Weithredwr Grŵp Cynefin yn aelod o gomisiwn newydd Llywodraeth Cymru

Mae Prif Weithredwr Grŵp Cynefin wedi ei dewis i fod yn Aelod o Gomisiwn Cymunedau Cymraeg newydd Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y bydd  Shan Lloyd Williams yn aelod mewn digwyddiad ar uned Llywodraeth Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron heddiw (dydd Iau Awst 4, 2022). Gwnaethpwyd y cyhoeddiad gan Weinidog y Gymraeg ag Addysg […]

03 Awst 2022

Gwaith yn dechrau ar brosiect £12.2 miliwn yn Sir Ddinbych

Mae’r gwaith ar fin dechrau ar brosiect ehangu gwerth £12.2 miliwn i ddiweddaru ac ymestyn Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn Llys Awelon, Rhuthun. Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r safle er mwyn creu cynllun modern, carbon isel pwrpasol i ddiwallu anghenion pobol hŷn yr ardal. Mae Cynlluniau Tai Gofal Grŵp Cynefin i gyd yn […]

09 Meh 2022

Prif Weithredwr yn croesawu adroddiad ail gartrefi Llywodraeth Cymru

Prif Weithredwr yn croesawu adroddiad ail gartrefi Llywodraeth Cymru  Mae prif weithredwr un o brif gymdeithasau tai gogledd Cymru wedi croesawu adroddiad Llywodraeth Cymru ar ail gartrefi a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Iau 9 Mehefin 2022). Grŵp Cynefin fydd yn arwain ar gynllun peilot arloesol Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei weithredu yn ardal Dwyfor. […]

03 Meh 2022

Twm Ebbsworth yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Datgelwyd heddiw (Gwener, 3 Mehefin) mewn seremoni a noddwyd gan Grŵp Cynefin  ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 mai Twm Ebbsworth o Lanwnnen, Ceredigion sydd wedi’i goroni fel Prif Lenor yr ŵyl. Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Osian Wynn Davies o Lanfairpwll, Ynys Môn (ac enillydd y Fedal Ddrama eleni) ac Elain […]

Cookie Settings