16 Hyd 2026

Grŵp Cynefin yn croesawu Nia Hughes fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau

Mae Grŵp Cynefin yn croesawu Nia Hughes wrth iddi ddechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau. Mae’n nodi pennod newydd i Nia, sy’n dod â phrofiad helaeth o uwch arweinyddiaeth yn y sector tai i’r swydd hon.   Yn gyfrifydd siartredig, bu Nia yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn Muir Group Housing […]

29 Medi 2026

Penodi cydweithwyr Grŵp Cynefin i Fwrdd TPAS Cymru

Mae TPAS Cymru wedi cyhoeddi aelodau newydd i’w Fwrdd Rheoli, sy’n cynnwys Ruth Yarwood (yn y llun), cynrychiolydd tenantiaid Grŵp Cynefin, a Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant.   Mae TPAS Cymru yn hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ac yn cefnogi tenantiaid a landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau tai.  Mae’r penodiadau yn […]

25 Medi 2026

Grŵp Cynefin wedi’i ryddhau o’i Ymrwymiad Gwirfoddol 

Mae Grŵp Cynefin wedi croesawu cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ei fod wedi cael ei ryddhau o’i Ymrwymiad Gwirfoddol.  Ymrwymwyd i hwn yn 2023 wedi i Grŵp Cynefin gyfeirio ei hun at y rheoleiddiwr tai ynghylch materion cydymffurfio â data.  Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu’r cynnydd sylweddol a wnaed i gryfhau trefniadau llywodraethu, sicrwydd, cydymffurfio, rheoli asedau […]

roadshow staff

24 Medi 2026

Buddsoddi i gefnogi pobl, cryfhau gwasanaethau a llunio’r dyfodol

Mae Grŵp Cynefin yn parhau i gyflawni uchelgais ei gynllun corfforaethol, Lle i Berthyn, drwy fuddsoddi mewn swyddi newydd lle mae gwerthoedd yn ganolog. Bydd y swyddi hyn yn helpu i lunio pennod nesaf y sefydliad.  Mae’r sector tai yn newid yn gyflym, gan ddod â chyfleoedd a heriau i denantiaid, cwsmeriaid, cymunedau a landlordiaid. […]

14 Awst 2026

Grŵp Cynefin yn cwblhau buddsoddiad gwerth £675,000 ym Mhenrhydeudraeth

Mae Grŵp Cynefin wedi cwblhau rhaglen fuddsoddi gwerth £675,000 yn eu cartrefi yn Trem y Moelwyn, Penrhydeudraeth. Mae’n golygu gwella effeithlonrwydd o ran ynni yn sylweddol i 18 o gartrefi,  gan gynnig amgylchedd byw cynhesach, mwy cyfforddus a fforddiadwy i’r tenantiaid. Ariannwyd y prosiect drwy gyfuniad o Raglen Ôl-osod Optimedig Llywodraeth Cymru a Rhaglen Buddsoddi […]

17 Gor 2026

Adeiladu perthnasoedd a chreu cyfleoedd i fusnesau lleol

Yr wythnos hon, croesawodd Grŵp Cynefin gontractwyr lloriau o bob rhan o ogledd Cymru a gogledd Powys i ddigwyddiadau Dod yn Gontractwr Lloriau, ym Mhenygroes a Dinbych.  Rhoddodd y sesiynau gyfle i rannu manylion contract lloriau sydd ar fin ei ryddhau, esbonio gofynion caffael, cynnig canllawiau tendro ymarferol a helpu busnesau i ddeall sut i gael mynediad at gyfleoedd yn y dyfodol.   Cynhaliwyd […]

06 Gor 2026

Diwrnod Garddio Maes y Môr, Tremadog

Bydd trigolion tai cysgodol Grŵp Cynefin ym Maes y Môr, Tremadog yn cael mwynhau gerddi hardd a thaclus wedi gwaith caled rhwng partneriaid wythnos yma.   Daeth trigolion Maes y Môr, staff Grŵp Cynefin a chontractwr tirlunio Sherratt Group Ltd at ei gilydd ar gyfer diwrnod o arddio, gan blannu blodau, tacluso llwybrau a gwrychoedd.  Y canlyniad yw gerddi braf a chroesawgar […]

Cookie Settings