Prif Weithredwr yn croesawu adroddiad ail gartrefi Llywodraeth Cymru

Prif Weithredwr yn croesawu adroddiad ail gartrefi Llywodraeth Cymru 

Mae prif weithredwr un o brif gymdeithasau tai gogledd Cymru wedi croesawu adroddiad Llywodraeth Cymru ar ail gartrefi a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Iau 9 Mehefin 2022). Grŵp Cynefin fydd yn arwain ar gynllun peilot arloesol Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei weithredu yn ardal Dwyfor.

Fel rhan o ymchwil y Llywodraeth i’r argyfwng ail gartrefi, bu Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru ym mis Mawrth eleni. Heddiw cyhoeddwyd Adroddiad Ail Gartrefi Llywodraeth Cymru, sy’n gwneud argymhellion ar gamau i ddelio gyda’r argyfwng ail-gartrefi yng Nghymru.

Meddai Shan Lloyd Williams: “Mae Grŵp Cynefin yn falch o fod wedi cyfrannu tuag at ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ail gartrefi ag yn benodol argymhellion adroddiad a ysgrifennwyd gan Dr Simon Brooks oedd yn sail i’r ymchwiliad.”

Bydd y grŵp yn darparu rheolwr ar gyfer y cynllun peilot, sydd wrth graidd y 15 argymhelliad a wneir yn adroddiad y Llywodraeth. Ychwanegodd Shan Lloyd Williams:

“Fel rhan o’r cynllun peilot yn ardal Dwyfor, rydyn ni nawr yn edrych ymlaen i weithredu a gwneud gwahaniaeth trwy weithio gyda chymunedau a phartneriaid i daclo’r materion sydd yn dylanwadu ar y farchnad dai lleol sydd wedi arwain at yr argyfwng tai gwledig.“

Yn y rhagair i’r adroddiad, meddai John Griffiths AS, Cadeirydd, Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai:

“Mae ein hymchwiliad wedi’i gynnal mewn cyd-destun esblygol, pan fo mater ail gartrefi wedi bod yn fwy amlwg nag erioed, a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ymgynghoriadau a chamau i gynorthwyo cymunedau yr effeithir arnynt, gan gynnwys cynllun peilot sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn Nwyfor.

“Yn yr adroddiad hwn rydym yn ystyried yr argymhellion a wnaed gan Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru, ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad a’r cyfleoedd y mae’r cynllun peilot yn Nwyfor yn eu cynnig i gael gwell dealltwriaeth o’r effaith y gall newidiadau polisi a newidiadau deddfwriaethol eu cael.”

Mae Shan Lloyd Williams ar gael ar gyfer cyfweliadau

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org

07970 142 305

09.06.22

Cookie Settings