Prif Weithredwr Grŵp Cynefin yn aelod o gomisiwn newydd Llywodraeth Cymru

Mae Prif Weithredwr Grŵp Cynefin wedi ei dewis i fod yn Aelod o Gomisiwn Cymunedau Cymraeg newydd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd y bydd  Shan Lloyd Williams yn aelod mewn digwyddiad ar uned Llywodraeth Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron heddiw (dydd Iau Awst 4, 2022). Gwnaethpwyd y cyhoeddiad gan Weinidog y Gymraeg ag Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles.

Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cael ei gadeirio gan Dr Simon Brooks. Ymysg yr amcanion mae gwneud argymhellion er mwyn cryfhau polisi cyhoeddus o ran cynaliadwyedd ieithyddol mewn cymunedau Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol a chymdeithasol mewn meysydd gwahanol.

“Mae cael fy newis i fod yn aelod o’r Comisiwn hwn yn anrhydedd mawr i mi’n bersonol,” meddai Shan Lloyd Williams.

“Ers dod yn Brif Weithredwr Grŵp Cynefin bedair blynedd yn ôl, mae gwarchod, cynnal ac ymbweru ein cymunedau Cymraeg wedi bod ar frig fy agenda. Dewiswyd Grŵp Cynefin yn ddiweddar i bartneru ar Gynllun Peilot Dwyfor gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Mae gan Grŵp Cynefin a minnau’r weledigaeth i wireddu newid go iawn o ran sut y gall datblygu cartrefi a chymunedau lifo law yn llaw gyda chynnal a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

“Rydw i yn edrych ymlaen yn fawr i wneud cyfraniad.”

Dywedodd Jeremy Miles:

“Drwy ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, a’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, byddwn ni a’n partneriaid yn cydweithio â chymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith, ac yn eu helpu i ddatblygu cynlluniau sy’n diogelu eu hunaniaeth a’n hiaith ni.

“Bydd y Comisiwn yn ein helpu ni i ddatblygu polisïau ar gyfer y dyfodol i gynnal yr iaith yn y cymunedau hynny sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg. Dyw hyn ddim yn ymwneud â sefydlu corff newydd, mae’n dod â grŵp o arbenigwyr ynghyd mewn amryw o feysydd i ddweud y gwir yn blaen wrthon ni am sut mae’r economi, penderfyniadau polisi a demograffeg yn effeithio ar y Gymraeg.

“Dwi wedi dweud sawl gwaith bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Bydd rhaid i ni fod yn ddewr a mynd i’r afael â phethau allai fod yn anodd gyda’n gilydd. Dwi’n siŵr y bydd rhai o’r pethau y bydd y Comisiwn yn eu dweud wrthon ni yn heriol, ond dyna’r peth – dyna fydd yn helpu i ni ddod o hyd i’r atebion mwya’ effeithiol!

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch gyda Mari Williams

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07834 845512

Cookie Settings