Twm Ebbsworth yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Datgelwyd heddiw (Gwener, 3 Mehefin) mewn seremoni a noddwyd gan Grŵp Cynefin  ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 mai Twm Ebbsworth o Lanwnnen, Ceredigion sydd wedi’i goroni fel Prif Lenor yr ŵyl.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Osian Wynn Davies o Lanfairpwll, Ynys Môn (ac enillydd y Fedal Ddrama eleni) ac Elain Roberts o Gei Newydd, Ceredigion ddaeth yn drydydd.

Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Llongyfarchiadau enfawr i Twm, ac Osian ac Elain wrth gwrs. Rydyn ni yn hynod falch o fod wedi noddi seremoni mor lliwgar a bywiog ac roedd gwir gyffro yn ystod y seremoni a gwych oedd deall safon uchel eleni.”

“Mae Grŵp Cynefin yn cynnig llawer ‘Mwy Na Thai’ – yn grantiau, partneriaethau, cefnogaeth, cyfleoedd, cyflogaeth ac mae cefnogi gŵyl mor ddeinamig ag Eisteddfod yr Urdd, ar ein stepen drws, yn bwysig iawn i ni. Rydyn ni yn angerddol am gynnal ein cymunedau Cymraeg a chefnogi ein pobol ifanc. Diolch i’r Urdd am y cyfle i wneud cyfraniad i ddigwyddiad mor arbennig.”

Y dasg eleni oedd ysgrifennu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema Llen/Llenni. Daeth saith ymgais i law gyda’r beirniad, Sian Northey a Gwenno Mair Davies “wir yn mwynhau darllen pob un ohonynt.”

Meddai Sian Northey am y gwaith buddugol: “Roeddem yn hollol gytûn bod y wobr gyntaf, a Choron Eisteddfod Dinbych, yn mynd i Pysgodyn Aur – llenor aeddfed a chrefftus wnaeth ein tywys ar daith wallgof a gwahanol. Roedd hwn yn ddarn gwahanol iawn yn llawn hiwmor tywyll a swreal a apeliodd yn fawr at y ddwy ohonom o’r darlleniad cyntaf. Llongyfarchiadau mawr.”

Mae Twm yn derbyn coron hardd wedi’i chreu gan y cerflunydd Ann Catrin, a’i rhoi gan Gymdeithas Gymraeg Dinbych. Daw Twm o bentref Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae ar fin cwblhau cwrs ôl-radd yn Adran y Gymraeg Aberystwyth. Yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, enillodd Gadair Genedlaethol y Mudiad yn 2019, ynghyd â dwy Goron Eisteddfod Ryng-golegol yn 2020 a 2022.

Mae wrth ei fodd yn chwarae gitâr ac yn chwarae pêl-droed i dîm y Geltaidd yn Aberystwyth yn ogystal â thîm lleol Sêr Dewi. Yn gefnogwr brwd o Tottenham Hotspur yn ogystal â’r tîm pêl-droed cenedlaethol, mae’n edrych ymlaen yn fawr i’r gêm ddydd Sul.

Dywedodd Twm: “Hoffwn ddiolch yn fawr i’m cyn-athrawon am eu hysbrydoliaeth a’u cefnogaeth; ac yn arbennig i Mrs Delor James, cyn Bennaeth y Gymraeg ym Mro Pedr am ei hanogaeth gyson ac i Eurig Salisbury yn y Brifysgol am ei gefnogaeth. Ac wrth gwrs, diolch i fy nheulu a ffrindiau am eu cyfeillgarwch, eu hamynedd a’u cefnogaeth, yn arbennig i Lleucu, Mam, Dad a Guto.”

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Mi fydd y gwaith buddugol ynghyd â’r feirniadaeth ar gael i’w darllen ar wefan Eisteddfod yr Urdd o brynhawn Gwener, 3 Mehefin ymlaen. Bwriad trefnwyr yr Eisteddfod yw cyhoeddi cyfrol o gyfansoddiadau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 ar ei newydd wedd, wedi’i guradu gan rai o Brif Enillwyr yr ŵyl, erbyn yr hydref.

Cookie Settings