Lansio prosiect atal digartrefedd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn

Mae gwasanaeth newydd i bobl hŷn yn cael ei gynnig yn Ynys Môn, a lansiwyd ar 1 Hydref 2022 – Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn – gan uned fusnes  Grŵp Cynefin, Gorwel.

Mae Prosiect Pobl Hŷn Môn wedi’i gomisiynu gan Gyngor Ynys Môn, a’i ddarparu gan Gorwel. Bydd yn darparu cefnogaeth ddwyieithog saith diwrnod yr wythnos i bobl 55 oed a throsodd sy’n wynebu heriau gyda’u trefniadau byw neu sy’n profi problemau a allai achosi iddynt ddod yn ddigartref pe na baent yn cael eu datrys.

Mae’r gwasanaeth yn arbennig o bwysig wrth i gymunedau wynebu effaith economaidd a chymdeithasol y byd ôl-bandemig. Mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru, a ddyfynnwyd yn Adroddiad Cyflwr y Genedl 2021 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn awgrymu bod yn o bob pump o bobl hŷn yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi incwm, ac ers y pandemig bu cynnydd o 98% ymhlith pobl dros 60 oed yng Nghymru sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.*

Mae’r prosiect newydd hwn yn adeiladu ar waith blaenorol Gorwel yn yr ardal. Byddant yn gallu helpu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys darparu cymorth ynghylch materion ariannol megis rheoli rhent, morgais neu ddyledion eraill, cyllidebu a chael mynediad at fudd-daliadau; gwneud cartref person yn fwy addas i’w anghenion, er enghraifft trwy drefnu addasiadau; a helpu pobl i gael gwell ansawdd bywyd trwy gryfhau cysylltiadau cymunedol a chefnogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.

Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Mae cael sylfaen sefydlog a diogel yn hanfodol i weld pobl Cymru’n ffynnu – dylai pawb gael mynediad at gartref fforddiadwy a sefydlog o ansawdd da.”

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer yn ei chael hi’n anodd cynnal cartref weithiau, boed hynny drwy salwch neu galedi ariannol, sy’n gallu eu gwneud yn agored i ddigartrefedd.

“Rydw i wrth fy modd o weld y gefnogaeth sy’n cael ei gynnig i bobl Ynys Môn gan Gorwel. Dylai pobl hŷn deimlo’n ddiogel, yn gyfforddus a yn rhan o’u cymuned leol. Dyma’r union fath o ddull ataliol yr ydym yn canolbwyntio arno, fel y nodir yn ein Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd.”

Croesawodd y Cynghorydd Alun Roberts, deilydd portffolio Gwasanaethau Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) Ynys Môn y prosiect: “Mae’n addas bod y gwasanaeth hwn yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn. Ni ellir diystyru pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog yn ein cymunedau sy’n galluogi pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain, yn gysylltiedig â’u cymunedau eu hunain cyhyd â phosibl.”

Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin. Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae Grŵp Cynefin yn falch iawn o weithio gyda’r cyngor i gefnogi pobl hŷn ar yr ynys. Mae’n anodd dychmygu pa mor frawychus yw hi i edrych ar ddyfodol heb gartref mewn unrhyw oedran, ond mae gorfod wynebu’r posibilrwydd hwn pan yn hŷn yn arbennig o frawychus. Gwyddom o’n gwaith yn y maes hwn yn flaenorol fod rhai rhwystrau difrifol i bobl hŷn heddiw ac rydym yn edrych ymlaen at helpu lle bynnag y gallwn.

“Mae Gorwel wedi darparu cymorth tai dwyieithog a gwasanaethau eraill ar yr ynys ers blynyddoedd lawer. Bydd y gwasanaeth hwn yn adeiladu ar yr arbenigedd hwnnw, ac ar wybodaeth a chysylltiadau leol.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu os gallech chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod elwa o siarad â rhywun yn Gorwel, gallwch ffonio eu swyddfa ar 0300 111 0226 neu e-bostio poblhyn@gorwel.org

Cyflwr y Genedl

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin.

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07834 845512

Cookie Settings