10 Awst 2022

Landlord newydd i denantiaid ym Maldwyn

Mae Grŵp Cynefin bellach yn landlord newydd ar dros hanner cant o gartrefi ym Maldwyn. Mae hyn yn dilyn cwblhau trosglwyddo 53 o gartrefi ym Machynlleth a Llanbrynmair o reolaeth Wales & West Housing. Mae cymryd rheolaeth o’r stoc, sy’n gyfuniad o dai cymdeithasol a thai gwarchod, yn golygu bod ardal Grŵp Cynefin yn fwy […]

04 Awst 2022

Prif Weithredwr Grŵp Cynefin yn aelod o gomisiwn newydd Llywodraeth Cymru

Mae Prif Weithredwr Grŵp Cynefin wedi ei dewis i fod yn Aelod o Gomisiwn Cymunedau Cymraeg newydd Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y bydd  Shan Lloyd Williams yn aelod mewn digwyddiad ar uned Llywodraeth Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron heddiw (dydd Iau Awst 4, 2022). Gwnaethpwyd y cyhoeddiad gan Weinidog y Gymraeg ag Addysg […]

03 Awst 2022

Gwaith yn dechrau ar brosiect £12.2 miliwn yn Sir Ddinbych

Mae’r gwaith ar fin dechrau ar brosiect ehangu gwerth £12.2 miliwn i ddiweddaru ac ymestyn Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn Llys Awelon, Rhuthun. Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r safle er mwyn creu cynllun modern, carbon isel pwrpasol i ddiwallu anghenion pobol hŷn yr ardal. Mae Cynlluniau Tai Gofal Grŵp Cynefin i gyd yn […]

Cookie Settings