Landlord newydd i denantiaid ym Maldwyn

Mae Grŵp Cynefin bellach yn landlord newydd ar dros hanner cant o gartrefi ym Maldwyn. Mae hyn yn dilyn cwblhau trosglwyddo 53 o gartrefi ym Machynlleth a Llanbrynmair o reolaeth Wales & West Housing. Mae cymryd rheolaeth o’r stoc, sy’n gyfuniad o dai cymdeithasol a thai gwarchod, yn golygu bod ardal Grŵp Cynefin yn fwy eang nag erioed.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas tai flaenllaw yng ngogledd Cymru a gogledd Powys, yn gweithredu ar draws y saith sir ac yn rheoli bron i 4600 o eiddo. Mae wedi ennill gwobrau am ei waith yn cefnogi tenantiaid, mentrau cymunedol, partneriaethau ac mae’n arwain yn benodol ar ddatblygu atebion i’r argyfwng tai gwledig presennol gyda thai fforddiadwy i’w prynu a’u rhentu.

Mae’r Prif Weithredwr, Shan Lloyd Williams, newydd gael ei henwi gan Lywodraeth Cymru fel aelod o Gomisiwn Cymunedau Cymru, sy’n gadarnhad pellach o enw da’r grŵp.

Mae’r stoc newydd hwn ym Maldwyn yn cynnwys sy’n cynnwys  51 o gartrefi ym Machynlleth a dau ym mhentref Llanbrynmair.

“Rydyn ni’n falch iawn gyda’r caffaeliad hwn. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein gwaith o gefnogi ein tenantiaid a darparu gwasanaeth effeithiol ar eu cyfer,” meddai Mel Evans, Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf, Grŵp Cynefin:

“Mae’n ymdrech barhaus i ni i ddarparu’r gefnogaeth a’r gwasanaethau gorau ac rydyn ni bellach ar waith yn cefnogi a chydweithio gyda’n tenantiaid newydd a’r gymuned leol ym Machynlleth.”

Meddai Carys Edwards, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin: “Mae hwn yn gam cadarnhaol i Grŵp Cynefin ac mae’n gweddu i’r grŵp a Machynlleth. Rydyn ni’n rhoi pwyslais mawr ar leisiau tenantiaid, gyda chynrychiolaeth ar y Bwrdd a Phwyllgor Cwsmeriaid a Chymuned ymroddedig. Mae gan denantiaid lais cryf wrth ddatblygu strategaethau a datblygiadau o fewn y grŵp ac mi fydd hi’n hyfryd clywed acen Maldwyn ymhlith y lleisiau hynny!”

Mae Grŵp Cynefin, sy’n cynnwys dau is-gwmni, yn cyflogi mwy na 300 o aelodau staff. Mae eu datblygiadau diwedda yn cynnwys Awel y Dyffryn, cynllun tai gofal ychwanegol gwerth £12 miliwn sy’n darparu 66 o fflatiau i bobl hŷn yng nghanol Dinbych, cartrefi carbon isel newydd sbon i bobl leol a theuluoedd ar stadau yn Waunfawr, Bethesda, Penygroes a Gwalchmai a lansiad dogfen weledigaeth ar gyfer cynllun iechyd a chymunedol arloesol gwerth £38 miliwn ar gyfer Dyffryn Nantlle.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org/ 07970 142 305

Cookie Settings