Grŵp Cynefin yn ymuno gyda sefydliadau gogledd Cymru i gynnig croeso cynnes y gaeaf hwn

Mae Grŵp Cynefin wedi ymuno gyda phartneriaid ledled gogledd Cymru i gynnig mannau cynnes a diogel i bobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi gyda chostau ynni cynyddol dros y gaeaf.

Mae’r fenter Croeso Cynnes yn cael ei harwain gan Menter Môn, ar y cyd â nifer o sefydliadau eraill fel rhan o Mudiad 2025.  Mae Mudiad 2025 yn grŵp o dros 600 o bobl a sefydliadau ledled gogledd Cymru sy’n cydweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar draws y rhanbarth.

Mae partneriaid Croeso Cynnes wedi ymrwymo i agor mannau cynnes mewn swyddfeydd, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol eraill lle gall pobl ddod i dreulio amser a mwynhau diod boeth, gyda chymorth ymarferol arall ar gael os oes angen.

Mae partneriaid Croeso Cynnes wedi ymrwymo i agor mannau cynnes mewn swyddfeydd, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol eraill lle gall pobl ddod i dreulio amser a mwynhau diod boeth, a bydd llawer o’r lleoedd hyn hefyd yn cynnig bwyd poeth. Mae’r cynllun hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r cymorth ymarferol sydd ar gael drwy sefydliadau fel Cymru Gynnes, Cwmni Budd Cymunedol sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ledled Cymru, gan sicrhau bod unrhyw un sydd angen cymorth yn cael ei gyfeirio at bobl a all helpu.

Dywedodd Clare Budden, Cadeirydd Mudiad 2025 a Phrif Weithredwr Cymdeithas Tai ClwydAlyn:

“Mae’r argyfwng costau byw yn her enfawr i’n sefydliadau a’r bobl rydym yn eu gwasanaethau, gyda’r disgwyl i anghydraddoldebau iechyd ehangu ymhellach wrth i gymunedau ddechrau teimlo effaith gwirioneddol costau cynyddol ynni, yn enwedig yng Nghymru, sydd â’r biliau trydan uchaf yn y DU ar gyfartaledd.

“Mae’n wych gweld cyn nifer o bartneriaid yn dod ynghyd i agor eu hadeiladau, o lyfrgelloedd i ganolfannau cymunedol, er mwyn cynnig mannau cynnes a diogel i bobl leol ymweld â nhw os ydynt yn ei chael hi’n anodd cynhesu eu cartrefi. Mae pawb sydd ynghlwm â 2025 wedi ymrwymo ers peth amser i gydweithio er mwyn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac mae Croeso Cynnes yn enghraifft arall o’r gwahaniaeth gallwn ni ei wneud wrth ddod ynghyd.”

Caiff mannau Croeso Cynnes eu hyrwyddo gan Arloesi Gwynedd Wledig, fel rhan o fenter gymdeithasol Menter Môn. Mae partneriaid sydd ynghlwm â 2025 sy’n agor mannau Croeso Cynnes ledled gogledd Cymru yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Mantell Gwynedd, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Medrwn Môn, Cyngor Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â chymdeithasau tai Adra, Tai Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin, Cartrefi Conwy, Tai Sir Ddinbych a ClwydAlyn.

I ddarganfod ble mae gofodau Croeso Cynnes ar gael yn eich ardal chi cliciwch yma.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am ran Grŵp Cynefin yn y cynllun, cysylltwch gyda Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin, Mari.Williams@grwpcynefin.org neu 07970 142 305.

Cookie Settings