Diwrnod recriwtio staff ar gyfer gwasanaeth cam-drin domestig a digartrefedd sy’n prysur ehangu

Gyda lansiad gwasanaeth newydd i atal digartrefedd ymhlith pobl hŷn ar Ynys Môn, cyllid ychwanegol ar gyfer cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig yn ogystal â’u gwasanaethau cymorth sefydledig, mae Osian Elis, Prif Swyddog newydd Gorwel, yn awyddus i ehangu ei weithlu hefyd. Osian, a benodwyd yn gynharach eleni, sydd y tu ôl i’r hwb i ehangu yn Gorwel, sef gwasanaetha atal digartrefedd a chefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig Grŵp Cynefin, ac yn gweithredu ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych.

Dydi hi ddim bob amser yn hawdd recriwtio staff sydd eu hangen i gynnal gwasanaethau Gorwel, ond bydd diwrnod recriwtio pwrpasol yng Nghaernarfon yn edrych i newid hynny.

Mae Osian, sydd wedi gweithio i Gorwel mewn swyddi amrywiol dros y 10 mlynedd diwethaf ac sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y maes cyn dod yn Brif Swyddog yn gynharach eleni, yn esbonio:

“Y prif beth rydyn ni’n edrych amdano yw sgiliau pobl. Tu hwnt i unrhyw beth arall mae’r gallu i gyfathrebu â phobl gyda dealltwriaeth a chydymdeimlad. Mae unrhyw un sydd â’r sgiliau yma hanner ffordd yno.”

Bydd diwrnod recriwtio Gorwel yn cael ei gynnal yn Galeri, Caernarfon ar Dachwedd 19eg. Gan gynnwys cinio, bydd y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio i Gorwel yn treulio’r bore yn dysgu mwy am yr uned, ac yna’n cael eu cyfweld yn y prynhawn ar gyfer un o unarddeg swydd sydd ar gael.

Mae gwybodaeth am y swyddi sy’n cael eu recriwtio a sut i ymgeisio ar gael ar wefan Grŵp Cynefin.

Dywedodd Osian: “Dwi’n gobeithio y bydd pobl yn ymateb i’r dull newydd, gwahanol hwn o recriwtio. Dwi’n awyddus i roi cynnig ar ddulliau newydd a cheisio cyrraedd cymaint o ymgeiswyr posibl ag y gallwn ni. Y cwbl sy’n rhaid gwneud i ymgeisio ydi llenwi ffurflen datgan diddordeb ar y wefan.

“Wrth i mi setlo yn swydd y Prif Swyddog, rydw i mor falch o glywed am yr effaith enfawr mae ein gwasanaethau yn ei gael. Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o ddigartrefedd, cam-drin domestig a phobl yn cael trafferth dod o hyd i ffyrdd o gael dau ben llinyn ynghyd yn ein cymunedau ac mae tîm Gorwel yn gwneud gwaith anhygoel yn cynorthwyo lle bynnag y gallan nhw. Mae mor bwysig ein bod ni’n helpu pobl i ddod trwy’r sefyllfaoedd anodd yma ac adeiladu’r bywyd maen nhw ei eisiau ac rydw i’n gyffrous i fod yn arwain Gorwel i wneud hyn ar adeg pan mae ei angen fwyaf.

“Mae staff brwdfrydig ac ymroddedig yn hanfodol i’r weledigaeth honno ac rwy’n gobeithio, trwy fynd allan i’r gymuned gyda’r digwyddiad recriwtio hwn, y gallwn ni gyfoethogi ac ehangu ein tîm sydd eisoes yn dalentog.”

Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:

“Mae’n wych bod Osian wedi ymgymryd â’r rôl hon ac yn cymryd camau breision i gryfhau ac ehangu’r gwasanaeth . Mae ei ymrwymiad i gymunedau gogledd Cymru a’r Gymraeg heb ei ail ac rwy’n hyderus gyda’i ehangder o brofiad ar draws y gwahanol agweddau o wasanaethau cymorth, digartrefedd a cham-drin domestig mewn rolau cyflawni ac arwain y bydd yn sicrhau bod Gorwel yn mynd o nerth i nerth.”

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org / cyfathrebu@grwpcynefin.org

Cookie Settings