16 Ion 2024

Trawsnewidiad Llys Awelon yn gwneud cynnydd mawr

Mae partneriaid mewn cynllun gwerth £12.2 i ddiweddaru ac ymestyn cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn Rhuthun wedi cael eu tywys o gwmpas y cynllun i gael cipolwg ar sut y bydd yn edrych yn y pen draw. Cafodd Prif Weithredwr Dros Dro Grŵp Cynefin, Mel Evans a’r Cadeirydd Tim Jones; Aelod Arweiniol Cabinet […]

09 Ion 2024

Gosod sylfeini ar gyfer cartrefi lleol yng Ngwynedd

Mae’r gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad gwerth £10 miliwn a fydd yn darparu 41 o gartrefi teuluol ynni effeithlon a fforddiadwy i bobl leol ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd. Mae’r cynllun, ar safle Canol Cae yng nghanol y dref, yn dod â dwy gymdeithas dai flaenllaw yng ngogledd Cymru, ClwydAlyn a Grŵp Cynefin, at ei gilydd mewn […]

20 Rhag 2023

Gorwel ar gael i newid bywydau – stori dwy

Mae’r Nadolig yn amser o  gynnig croeso cynnes ac agor ein cartrefi i deulu a ffrindiau. Bydd llawer ohonom yn ddigon ffodus i gael hynny ond i nifer cynyddol o bobl, mae gwyliau’r Nadolig yn dod â phryderon arian ac ofnau am y dyfodol. Serch hynny, mae yna sefydliadau a all helpu, ac mae Gorwel, […]

silhouette of a person holding a child in the sunset

01 Rhag 2023

Cefnogi ymgyrch yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu Grant Cymorth Tai

Mae Grŵp Cynefin yn cefnogi ymgyrch genedlaethol #HousingMattersWales sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu Grant Cymorth Tai yn 2024/25 Mae Gorwel, y rhan o Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau i bobl sy’n profi cam-drin domestig, yn derbyn Grant Cymorth Tai ac wedi tynnu sylw yn ddiweddar at y twf syfrdanol yn y galw am […]

24 Tach 2023

Gwasanaeth cam-drin domestig gogledd Cymru yn gweld cynnydd o 77% yn y galw

Mae’r 25ain o Dachwedd yn Ddiwrnod Rhuban Gwyn pan fydd pobl ledled y byd yn gwisgo rhuban gwyn i ddangos eu hymrwymiad i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Mae Gorwel, y rhan o Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau i bobl sy’n profi cam-drin domestig, yn nodi’r diwrnod drwy dynnu sylw at y twf […]

01 Tach 2023

Lawnsio cronfa grantiau yn ardal Rhuthun

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cronfa gwerth £18,000 ar gyfer gweithgareddau i wella cymunedau yn ardal Rhuthun. Mae’r grantiau – o hyd at £1000 yr un – ar gael i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth a gwelliant yn eu hardal leol. Daw’r grantiau fel rhan o ail-ddatblygu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol […]

10 Hyd 2023

Grŵp Cynefin yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc

Ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10) mae Gorwel, y rhan o Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau atal digartrefedd, yn tynnu sylw at y math o lety a gwasanaethau cymorth a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol, fel Yr Hafod yn Ninbych. Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau atal digartrefedd ac mae’n cefnogi Diwrnod Digartrefedd […]

25 Medi 2023

Grŵp Cynefin yn penodi Cadeirydd newydd i’w Fwrdd Rheoli

Mae Grŵp Cynefin wedi cadarnhau mai Tim Jones yw Cadeirydd newydd ei Fwrdd Rheoli. Mae Tim yn dod â phrofiad helaeth i’r grŵp wedi dal swyddogaethau amrywiol ar fyrddau yn genedlaethol ac ar lefel y DU, ac arbenigedd mewn gweithio gyda rhanddeiliaid o ystod eang o feysydd. Mae’n olynu Carys Edwards, daeth i ddiwedd ei […]

27 Gor 2023

Uned Grŵp Cynefin yn rhan o gynllun newydd o’r ysbyty i’r cartref yng Ngwynedd

Mae uned digartrefedd a chefnogaeth Grŵp Cynefin, Gorwel, yn bartner mewn gwasanaeth newydd i helpu pobl sydd wedi profi salwch meddwl i ddychwelyd gartre’ yn ddiogel ar ôl triniaeth ysbyty. Mae’r cynllun newydd fydd yn gweithredu yng Ngwynedd wedi ei ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd a Gorwel. Mae’r cynllun […]

26 Meh 2023

Grŵp Cynefin yn annog cyfeillgarwch a sgwrs yn Ninbych

Annog sgwrs, cysylltiad a chyfeillgarwch rhwng pobol o bob oed. Dyna yw bwriad cynllun arbennig yn nhref Dinbych, sef ‘Meinciau Cyfeillgar Dinbych’. Cymdeithas dai Grŵp Cynefin a Chymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych sy’n cydweithio ar y prosiect arbennig hwn. Mae’n cynnwys gweithio gydag artistiaid a chymunedau lleol i greu cyfres o feinciau lliwgar a thrawiadol […]

Cookie Settings