Datblygiad Grŵp Cynefin yn ennill gwobr genedlaethol am ragoriaeth mewn rheolaeth adeiladu

Mae datblygiad tai cymdeithasol gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin, a adeiladwyd gan gwmni adeiladu Cymreig Gareth Morris Construction, wedi ennill gwobr fawr ledled y DU.

Enillodd cynllun tai Llety’r Adar ym Methesda, Gwynedd, wobr gyntaf am Ddatblygiad Bach Tai Cymdeithasol yng  Ngwobrau Rhagoriaeth Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) dros y penwythnos.

Mynychodd mwy na 900 o ffigurau blaenllaw’r diwydiant adeiladu Wobrau Rhagoriaeth LABC yn Llundain, i ddathlu arfer gorau, ansawdd a safonau rhagorol ym maes adeiladu. Mae’r gwobrau’n canolbwyntio ar sgiliau a chymhwysedd proffesiynol, yn ogystal â phrosiectau sy’n esiampl o ddatblygiadau gwych.

Un o’r datblygiadau hynny yw Llety’r Adar Grŵp Cynefin ar safle’r Hen Orsaf ym Methesda, Gwynedd, partneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd, gyda grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, a adeiladwyd gan Gareth Morris Construction.

Hefyd yn rhan allweddol o’r prosiect roedd tri chwmni Cymreig, Penseiri Ainsley Gommon o Sir y Fflint, asiant adeiladu Wakemans o Gaernarfon a pheirianwyr Datrys o Gaernarfon.

Mae’r stâd,  a gwblhawyd y llynedd, yn cynnwys wyth eiddo dwy ystafell wely, pum byngalo dwy ystafell wely, tri thŷ tair ystafell wely ac un tŷ pedair ystafell wely.

Mae gwobrau LABC yn tynnu sylw at y cyfraniad mae timau rheolaeth adeiladu’r sector gyhoeddus yn ei wneud fel rhan o’r  tîm prosiect, gan sicrhau adeiladu diogel, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.

Dywed Mel Evans, Prif Weithredwr Dros Dro, Grŵp Cynefin:

Mae hyn yn newyddion gwych a llongyfarchiadau i bawb oedd ynghlwm a’r prosiect. Datblygwyd Llety’r Adar i ymateb i’r angen am dai cymdeithasol i bobl leol, a buom yn gweithio’n agos gyda’r gymuned i sicrhau ein bod yn ymateb i’r galw hwnnw. Mae’r prosiect cyfan yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaethau yn cael eu creu er budd yr ardal leol, ac mae’r cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd, Gareth Morris Construction a ninnau wedi bod yn wych. Da iawn  bawb am eu rhan yn hyn.

Meddai Dylan Wyn Jones, Rheolwr Gweithrediadau, Gareth Morris Construction:

“Mae’r wobr genedlaethol hon yn gamp anhygoel ac yn dyst i’r lefel uchel o ffocws, ymrwymiad a chydweithio gan y  tîm cyfan. Diolch yn fawr iawn i bawb oedd yn rhan o’r prosiect am eu cyfraniad i’r llwyddiant anhygoel hwn.

“Yn ogystal, roedd Dewi Hughes o’r GMC hefyd ar restr fer gwobr ‘Rheolwr Safle‘r Flwyddyn’ am brosiect arall, felly noson wych i GMC a’r byd adeiladu yn Nghymru.”

Wrth longyfarch y tîm cyfan ar eu llwyddiant, dywedodd Lorna Stimpson, Prif Weithredwr LABC:

“Rwy’n credu’n gryf mai un o’r ffyrdd gorau o weld mwy o waith da yw canmol rhagoriaeth adeiladu a chydnabod cwmnïau, dylunwyr, rheolwyr safleoedd a chrefftwyr  sy’n mynd y filltir ychwanegol honno.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mari Williams

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

07970 142 305

Mari.Williams@grwpcynefin.org

23-01-24

Cookie Settings