Trawsnewidiad Llys Awelon yn gwneud cynnydd mawr

Mae partneriaid mewn cynllun gwerth £12.2 i ddiweddaru ac ymestyn cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn Rhuthun wedi cael eu tywys o gwmpas y cynllun i gael cipolwg ar sut y bydd yn edrych yn y pen draw.

Cafodd Prif Weithredwr Dros Dro Grŵp Cynefin, Mel Evans a’r Cadeirydd Tim Jones; Aelod Arweiniol Cabinet Cyngor Sir Ddinbych, Elen Heaton ac Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd i Oedolion, a swyddogion allweddol eraill eu tywys o amgylch y safle gan Ed Haley, Rheolwr Prosiect a rheolwyr a syrfewyr eraill o’r cwmni adeiladu Read.

Dechreuodd y gwaith  i ailddatblygu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol presennol Llys Awelon flwyddyn yn ôl a bydd yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.  Bydd y Llys Awelon newydd yn cynnig cynllun modern, carbon isel i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych, gan gynnwys 35 o fflatiau un a dwy ystafell wely yn ychwanegol i’r 21 fflat bresennol, o fewn adeilad pwrpasol gydag ardaloedd cymunedol fel gerddi, lolfeydd, bwyty a salon trin gwallt.

Yn ogystal â’r cyfleuster ei hun, mae cyfle i’r gymuned ehangach elwa o’r cynllun, gyda gwerth £18,000 o grantiau ar gael i brosiectau a chlybiau lleol i wella bywydau a chyfleoedd yn ardal Rhuthun.  Bydd y gronfa ar agor i geisiadau tan ddiwedd y mis. Mae mwy o wybodaeth ar wefan  Grŵp Cynefin Grant Cymunedol Llys Awelon – Grŵp Cynefin (grwpcynefin.org)

Meddai  Mel Evans, Prif Weithredwr Dros Dro Grŵp Cynefin:

Mae gweld y gwaith anhygoel sy’n digwydd a’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn Llys Awelon yn wych. Mae’n brosiect cymhleth gan fod y gwaith adeiladu yn digwydd ochr yn ochr â’r cyfleuster presennol, ac felly mae’n rhaid i unrhyw waith darfu cyn lleied â phosibl ar y trigolion a’r staff. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect hwn, o fewn Grŵp Cynefin a’n partneriaid yng Nghyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru am y cydweithio cadarnhaol sy’n arwain at gynnydd gwych.

“Gobeithio bydd y grant cymunedol ychwanegol a gynigir gan Grŵp Cynefin a Read fel rhan o’r prosiect yn gwneud gwahaniaeth ehangach hefyd ac rwy’n annog grwpiau a sefydliadau i gyflwyno eu ceisiadau cyn y dyddiad cau.”

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyngor Sir Ddinbych:

“Roedd yn bleser ymweld â Llys Awelon a gweld y cynnydd anhygoel a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf yn ei ailddatblygu. Mae mynd i’r afael ag anghenion ein poblogaeth hŷn yn Sir Ddinbych yn hanfodol, ac rwy’n estyn fy niolch diffuant i Grŵp Cynefin a Reed Construction am eu hymroddiad. Rwy’n edrych ymlaen at ailymweld â’r safle unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau ddiwedd y flwyddyn.”

Meddai Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction:

“Mae Read Construction yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn a’r ffordd y mae’r holl bartneriaid yn y  sefydlu, dylunio ac adeiladu yn cydweithio i ddarparu cyfleuster preswyl o ansawdd uchel. Bydd y llety gofal ychwanegol gorffenedig yn darparu fflatiau modern o’r ansawdd uchaf, sy’n effeithlon o ran ynni er budd y gymuned leol. Rydym yn falch o allu cynnig budd ychwanegol trwy grantiau cymunedol ac rydym yn gobeithio y bydd grwpiau lleol sydd â diddordeb yn rhoi eu ceisiadau i mewn yn fuan, cyn y dyddiad cau.”

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru ac fe’i gefnogir gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org

Cookie Settings