Lawnsio cronfa grantiau yn ardal Rhuthun

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cronfa gwerth £18,000 ar gyfer gweithgareddau i wella cymunedau yn ardal Rhuthun.

Mae’r grantiau – o hyd at £1000 yr un – ar gael i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth a gwelliant yn eu hardal leol. Daw’r grantiau fel rhan o ail-ddatblygu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun.

Mae bellach yn arferol bod cytundeb adeiladu mawr o’r math yma yn cynnwys buddsoddiad y tu hwnt i’r safle adeiladu, ac yn y gymuned leol yn ogystal.

Cwmni lleol, Read Construction, yw’r cwmni adeiladu sy’n ail-ddatblygu’r safle, ac felly yn hynod addas bod y buddsoddiad cymunedol hwn yn cael ei roi i ardal lle daw llawer o’u gweithwyr a chyflenwyr. Mae datblygu Llys Awelon yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin,  Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

“Mae’r prosiect newydd yma yn golygu 35 fflat ychwanegol i’r 21 fflat bresennol â chyfleusterau newydd sbon ar gyfer pobol hŷn yr ardal,” meddai Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin. “Mae’n braf felly, yn ogystal a gallu darparu adnodd fel hyn i ardal, sy’n naturiol yn dod a swyddi a gwariant lleol, bod y gymuned hefyd yn manteisio’n ehangach trwy grantiau fel hyn.”

Bydd y grantiau o hyd at  £1,000 yn cael eu cynnig i grwpiau sy’n gweithredu yn Rhuthun a’r cyffiniau, o fewn cod post LL15.

“Rydyn ni wir eisiau i grwpiau o bob math wneud ceisiadau am yr arian,” meddai Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin. “Os allan nhw helpu unrhyw weithgaredd sy’n gwneud bywyd yn well, yn dod a phobl at ei gilydd ac yn lles i’r gymuned a’r amgylchedd, ewch amdani! Maen nhw’n grantiau cymharol fechan ond mae mil o bunnoedd i fenter fach yn gallu gwneud y byd o wahaniaeth.”

Mi all gweithgareddau’r grwpiau fod yn amrywiol ac yn gwneud rhai o’r isod.

  • Hybu naws cymunedol yr ardal
  • Cynnwys yr holl gymuned (e.e. pobl o bob oedran a galluoedd)
  • Annog plant a phobl ifanc i fod yn rhan o’r prosiect
  • Trefnu digwyddiad(au) i ddod â’r gymuned at ei gilydd
  • Cefnogi prosiect parhaol (cymdeithasol neu hobi)
  • Darparu cyfleoedd chwarae a hamdden i blant a phobl ifanc
  • Gwella’r amgylchedd lleol (e.e. dyddiau casglu sbwriel, creu lle ar gyfer bywyd gwyllt)
  • Helpu pobl deimlo’n fwy saff a diogel
  • Gwella lles y gymuned trwy annog ffordd o fyw iach
  • Hybu’r iaith Gymraeg
  • Ymateb i heriau’r argyfwng costau byw

Mae’r gronfa yn aros ar agor i geisiadau tan 31 Ionawr 2024. Gall grwpiau ymgeisio am y grantiau ar-lein ar wefan Grŵp Cynefin yma neu cysylltwch i gael copi caled yn y post.

Adran Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin sy’n gweinyddu’r grantiau felly os hoffech drafod, gweld os ydi’ch menter neu eich prosiect chi yn gymwys neu gael help gydag ymgeisio, cysylltwch gyda thîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122 neu e-bostiwch mentraucymunedol@grwpcynefin.org.

Os am drefnu cyfweliad neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin ar

mari.williams@grwpcynefin.org neu 07970 142 305

Cookie Settings