Cefnogi ymgyrch yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu Grant Cymorth Tai

Mae Grŵp Cynefin yn cefnogi ymgyrch genedlaethol #HousingMattersWales sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu Grant Cymorth Tai yn 2024/25

Mae Gorwel, y rhan o Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau i bobl sy’n profi cam-drin domestig, yn derbyn Grant Cymorth Tai ac wedi tynnu sylw yn ddiweddar at y twf syfrdanol yn y galw am y gwasanaethau hyn.

Meddai Osian Elis, Prif Swyddog Gorwel: ” Rydym wedi gweld cynnydd heb ei debyg yn y galw am y gwasanaethau rydyn ni yn eu darparu  yn Ynys Môn a Gwynedd. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi y llynedd fe helpon ni 165 o bobl yn eu cartrefi eu hunain a oedd yn dioddef camdriniaeth. Y ffigwr hwnnw eleni yw 293. Mae hyn yn gynnydd o 77.6% mewn blwyddyn.”

 “Dyma un effaith yr argyfwng costau byw. I ni, y broblem yw bod ein hadnoddau yn gyfyngedig hefyd. Dydyn ni heb gael cynnydd yn y cyllid i ddarparu’r gwasanaethau hyn ers nifer o flynyddoedd, felly bob blwyddyn mae’n rhaid i ni wneud mwy gyda llai. Mae bellach yn mynd yn anghynaladwy, mae’n rhaid i ni gael ein hariannu’n ddigonol.”

Yn anffodus, mae llawer o sefydliadau ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol. Mae Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynnal ymgyrch #HousingMattersWales i dynnu sylw at yr hyn sy’n digwydd.

Dywed Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru: “Mae’r mwyafrif o ddarparwyr cymorth ar draws Cymru yn adrodd cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau. Mae costau darparu gwasanaethau wedi cynyddu 11% eleni, ac eto mae’r  cyllid wedi gostwng £24 miliwn mewn termau real ers 2012.

“Mae 75% o ddarparwyr cymorth yn sybsideiddio contractau sydd i fod i gael eu hariannu gan y Grant Cymorth Tai, sy’n gwbl anghynaladwy. Mae’n amlwg bod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu’r Grant Cymorth Tai i sicrhau y gall y gwasanaethau hanfodol hyn barhau i ddarparu’r cymorth hwn sy’n achub bywydau i bobl ledled Cymru.”

Dywed un o oroeswyr Gorwel bod y gefnogaeth  wedi achub ei bywyd: “Mae’r gwasanaethau yn amhrisiadwy,” meddai Jen. “Mi wnaeth fy ngweithiwr cefnogi achub ‘y mywyd i. Mi helpodd fi i gymryd rheolaeth yn ôl a dechrau sgwennu fy stori fy hun. Faswn i ddim wedi gallu gwneud hyn hebddi hi.”

Cefndir:

Mae Gorwel yn rhan o gymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau o safon i gefnogi pobl sydd wedi colli neu sydd mewn perygl o golli eu cartrefi a phobl sy’n goroesi cam-drin domestig. Mae’r mudiad yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, gan gynnwys tenantiaid Grŵp Cynefin, mewn tair sir yng ngogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd a Sir Ddinbych.

Mae ymgyrch #HousingMattersWales yn cael ei rhedeg gan Cymorth Cymru – y sefydliad ymbarél ar gyfer cymorth tai, gwasanaethau cam-drin domestig a digartrefedd; a Cartrefi Cymunedol Cymru – y corff sy’n cynrychioli cymdeithasau tai. Mae eu hadroddiad yn dangos effaith y cyfuniad o doriadau cyllid ac anghenion cynyddol ar y rhai sy’n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau. Gellir gweld yr adroddiad yma: HM-report-WG-Budget-24-25-ENG.pdf (cymorthcymru.org.uk)

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â:

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305

 

Cookie Settings