15 Rhag 2025
Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Rhuthun yn Ennill Gwobr Rhagoriaeth Adeiladu Genedlaethol
Mae llwyddiant cynllun tai gofal ychwanegol cymdeithas tai Grwp Cynefin wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol yng Ngwobrau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol Cymru 2025. Enillodd prosiect uchelgeisiol i adnewyddu ac ehangu cynllun tai gofal ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun wobr led-led Cymru gan dderbyn canmoliaeth uchel am ei safonau rhagorol. Mae’r wobr hon yn adlewyrchu dyluniad arloesol, ymrwymiad i ansawdd, ystyriaeth i amgylchedd a phobl a’r gwir ystyr o gydweithio oedd wrth galon y […]