Uned Grŵp Cynefin yn rhan o gynllun newydd o’r ysbyty i’r cartref yng Ngwynedd

Mae uned digartrefedd a chefnogaeth Grŵp Cynefin, Gorwel, yn bartner mewn gwasanaeth newydd i helpu pobl sydd wedi profi salwch meddwl i ddychwelyd gartre’ yn ddiogel ar ôl triniaeth ysbyty.

Mae’r cynllun newydd fydd yn gweithredu yng Ngwynedd wedi ei ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd a Gorwel.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl sydd wedi treulio amser yn yr ysbyty oherwydd salwch meddwl yn gallu dychwelyd adref neu symud i lety addas arall ar ôl iddynt gwblhau eu triniaeth mewn ffordd gynlluniedig a chefnogol.

Dywedodd Osian Elis, Prif Swyddog Gweithredu Gorwel:

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd ers tro mewn gwahanol ffyrdd ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio ar y bartneriaeth newydd hon gyda’n gilydd. Mae gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod pobl sydd wedi bod trwy brofiad trawmatig yn gallu gadael yr ysbyty, yn cael eu cefnogi i gynnal eu hadferiad ac adeiladu’r bywyd y maen nhw ei eisiau yn rhywbeth rydyn ni’n falch iawn o’i wneud.

Dywedodd Phil Forbes, Arweinydd Clinigol Tai ar gyfer Is-adran Iechyd Meddwl BIPBC: “Rydym yn falch iawn o fod wedi datblygu’r cynllun hwn gyda Gorwel. Rydym wedi darganfod yn y gorffennol, pan ddaw’r amser i rywun symud yn ôl i’w cymuned, nad yw’r cymorth yno bob amser i drosglwyddo’n ddidrafferth yn ôl i’w cartref neu i le arall lle gallan nhw barhau i wella. Mae hyn yn peryglu eu hadferiad ac mae oblygiadau o ran faint o bobl y gallwn eu helpu. Bydd y bartneriaeth hon, y mae mawr ei hangen, yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod pobl sy’n gadael ein gofal yn gallu mynd ymlaen i wella’n llwyr a symud ymlaen â’u bywydau.”

Ariennir y cynllun drwy Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru a bydd yn gweithredu drwy gael gweithiwr cymorth Gorwel wedi’i leoli yn yr uned iechyd meddwl yn Ysbyty Gwynedd. Byddant yn treulio amser gyda chleifion sy’n cyrraedd diwedd eu harhosiad yn yr ysbyty, yn dod i’w hadnabod nhw a’r hyn sydd ei angen arnynt ac yna’n eu cefnogi i symud allan a sefydlu cartref.

Ychwanegodd Osian: “Mae’n heriol iawn ar hyn o bryd i bobl ddod o hyd i gartref a sefydlu eu hunain ynddo ac mae hyn gymaint anoddach os ydych chi’n gwella o salwch. Rydyn ni’n gweld iechyd meddwl mwy a mwy o bobl yn dioddef oherwydd y sefyllfa costau byw ac mae diffyg llety fforddiadwy yn yr ardal yn ei gwneud hi’n anodd i unrhyw un ar incwm cyfyngedig. Mae dod â gwahanol gyrff ac asiantaethau fel iechyd a thai at ei gilydd yn darparu’r cymorth cysylltiedig sydd ei angen i helpu ein cymunedau drwy’r argyfwng presennol.”

Os hoffech chi neu rywun rydych yn ei adnabod elwa o siarad â rhywun yn Gorwel, gallwch ffonio eu swyddfa ar 0300 111 2121 neu e-bostio cydgysylltydd@gorwel.org

Am ymholiadau’r wasg, cysylltwch â Mari Williams Rheolwr Cyfathrebu Grŵp Cynefin mari.williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305.

Cookie Settings