19 Tach 2026

Cyfle i lunio dyfodol cyllid Grŵp Cynefin

Mae Grŵp Cynefin yn chwilio am Bennaeth Cyllid newydd i ymuno â’r sefydliad ar adeg gyffrous o ddatblygu a thrawsnewid.  Gyda ffocws clir ar gryfhau gwasanaethau, moderneiddio’r ffordd rydyn ni’n gweithio a sicrhau bod y sefydliad mewn sefyllfa gref ar gyfer y dyfodol, bydd y Pennaeth Cyllid yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i wireddu’r […]

18 Tach 2026

Grŵp Cynefin yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwrando a gweithredu i ddiogelu pobl

Mae Grŵp Cynefin yn nodi Wythnos Diogelu Oedolion 2026 drwy dynnu sylw at y rôl sydd gan sefydliadau, gweithwyr proffesiynol a chymunedau i’w chwarae wrth helpu i gadw pobl yn ddiogel. Thema genedlaethol yr wythnos eleni yw “Pob Llais. Pob Dewis.” sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd gwrando ar bobl, parchu eu dewisiadau a’u cynnwys mewn penderfyniadau […]

22 Hyd 2026

Rhybudd tywydd garw – Storm Austen

Gyda Storm Austen yn dod â gwyntoedd cryfion, mae rhybudd melyn mewn grym ar draws gogledd Cymru rhwng 00:00 a 21:00 ar 23/10/2026. Os ydych yn denant gyda Grŵp Cynefin ac angen cymorth brys, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122. I roi gwybod am waith trwsio nad yw’n fater brys, cysylltwch â ni yma. […]

16 Hyd 2026

Grŵp Cynefin yn croesawu Nia Hughes fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau

Mae Grŵp Cynefin yn croesawu Nia Hughes wrth iddi ddechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau. Mae’n nodi pennod newydd i Nia, sy’n dod â phrofiad helaeth o uwch arweinyddiaeth yn y sector tai i’r swydd hon.   Yn gyfrifydd siartredig, bu Nia yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn Muir Group Housing […]

29 Medi 2026

Penodi cydweithwyr Grŵp Cynefin i Fwrdd TPAS Cymru

Mae TPAS Cymru wedi cyhoeddi aelodau newydd i’w Fwrdd Rheoli, sy’n cynnwys Ruth Yarwood (yn y llun), cynrychiolydd tenantiaid Grŵp Cynefin, a Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant.   Mae TPAS Cymru yn hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ac yn cefnogi tenantiaid a landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau tai.  Mae’r penodiadau yn […]

roadshow staff

24 Medi 2026

Buddsoddi i gefnogi pobl, cryfhau gwasanaethau a llunio’r dyfodol

Mae Grŵp Cynefin yn parhau i gyflawni uchelgais ei gynllun corfforaethol, Lle i Berthyn, drwy fuddsoddi mewn swyddi newydd lle mae gwerthoedd yn ganolog. Bydd y swyddi hyn yn helpu i lunio pennod nesaf y sefydliad.  Mae’r sector tai yn newid yn gyflym, gan ddod â chyfleoedd a heriau i denantiaid, cwsmeriaid, cymunedau a landlordiaid. […]

14 Awst 2026

Grŵp Cynefin yn cwblhau buddsoddiad gwerth £675,000 ym Mhenrhydeudraeth

Mae Grŵp Cynefin wedi cwblhau rhaglen fuddsoddi gwerth £675,000 yn eu cartrefi yn Trem y Moelwyn, Penrhydeudraeth. Mae’n golygu gwella effeithlonrwydd o ran ynni yn sylweddol i 18 o gartrefi,  gan gynnig amgylchedd byw cynhesach, mwy cyfforddus a fforddiadwy i’r tenantiaid. Ariannwyd y prosiect drwy gyfuniad o Raglen Ôl-osod Optimedig Llywodraeth Cymru a Rhaglen Buddsoddi […]

17 Gor 2026

Adeiladu perthnasoedd a chreu cyfleoedd i fusnesau lleol

Yr wythnos hon, croesawodd Grŵp Cynefin gontractwyr lloriau o bob rhan o ogledd Cymru a gogledd Powys i ddigwyddiadau Dod yn Gontractwr Lloriau, ym Mhenygroes a Dinbych.  Rhoddodd y sesiynau gyfle i rannu manylion contract lloriau sydd ar fin ei ryddhau, esbonio gofynion caffael, cynnig canllawiau tendro ymarferol a helpu busnesau i ddeall sut i gael mynediad at gyfleoedd yn y dyfodol.   Cynhaliwyd […]

26 Meh 2026

Grŵp Cynefin yn gwahodd contractwyr lloriau i ddigwyddiadau Dod yn Gontractwr Lloriau

Mae Grŵp Cynefin yn gwahodd contractwyr lloriau o ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys i fynychu cyfres o ddigwyddiadau Dod yn Gontractwr ym mis Gorffennaf, gan ganolbwyntio ar gyfle contract lloriau sydd ar y gweill. Cynhelir y digwyddiadau yn Nhŷ Silyn, Penygroes ar 15 Gorffennaf am 11:30am a Thŷ John Glyn, Dinbych ar 16 […]

Cookie Settings