Newid i’n Dyfarniad Rheoleiddio

Yn ddiweddar, cynhaliodd  Grŵp Cynefin adolygiad mewnol o rai rhannau o’r  busnes – gan gynnwys rheoli asedau a sut rydym yn cadw cofnodion. 

Yn dilyn yr adolygiad hwn, gwnaethom y penderfyniad i gyfeirio ein hunain at y Rheoleiddiwr yn Llywodraeth Cymru gan ei fod yn glir nad oedd gennym y cofnodion a’r broses gywir i ddarparu sicrwydd ein bod yn cydymffurfio â rhai safonau.  

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Rheoleiddiwr i ddatblygu cynllun a gwneud newidiadau i’n proses fel y gallwn ddangos tystiolaeth o gydymffurfio lle bo angen, gan gynnwys o gwmpas diogelwch a Safon Ansawdd Tai Cymru.   

Mae’r Rheoleiddiwr wedi cadarnhau eu bod yn newid ein statws  i gydymffurfiaeth (melyn) ar hyfywedd ariannol a diffyg cydymffurfio (ambr) ar gyfer llywodraethu a gwasanaethau tenantiaid. 

Er ein bod yn naturiol yn siomedig, rydym yn deall rhesymau’r Rheoleiddiwr ac rydym wedi ymrwymo’n llawn i weithio gyda nhw i adeiladu ar y newidiadau yr ydym eisoes wedi’u rhoi ar waith.  

Ni ddylai tenantiaid boeni. Bydd gwasanaethau yn ein cymunedau yn parhau fel arfer a diogelwch yw ein prif flaenoriaeth o hyd.  

Mae’r dyfarniad cyfan yma 

Gall tenantiaid neu gwsmeriaid sydd ag unrhyw gwestiwn gysylltu â Grŵp Cynefin ar e-bost at post@grwpcynefin.org neu ffonio 0300 111 2122. 

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau fynd at  Mari.Williams@grwpcynefin.org  neu 07970 142 305. 

Cookie Settings