Shan Lloyd Williams yn sefyll i lawr fel Prif Weithredwr Grŵp Cynefin

Ar ôl pum mlynedd yng ngofal y gymdeithas dai yng ngogledd Cymru, mae Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, Shan Lloyd Williams, yn rhoi’r gorau i’w rôl  er mwyn canolbwyntio ar brosiectau a diddordebau personol.

Hoffai Grŵp Cynefin ddiolch i Shan am ei chyfraniad i’r gymdeithas dros y cyfnod hwnnw a dymuno pob llwyddiant iddi i’r dyfodol.

Bydd Mel Evans, cyn Gyfarwyddwr Grŵp Twf ac Arloesedd Grŵp Cynefin, yn parhau yn ei swydd fel Prif Weithredwr Dros Dro.

Cookie Settings