Grŵp Cynefin yn cyhoeddi rhaglen fuddsoddi gwerth £200m+ ar gyfer cartrefi a chymunedau ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Powys
Bydd mwy na £200 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cartrefi a chymunedau ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys o dan gynllun busnes 30 mlynedd newydd uchelgeisiol Grŵp Cynefin. Bydd y rhaglen yn darparu 503 o gartrefi newydd, yn gwella eiddo presennol ac yn cefnogi swyddi, busnesau a chymunedau lleol am ddegawdau i ddod.
Wedi ei ddatblygu mewn ymateb i amgylchedd gweithredu heriol sy’n newid yn gyflym, mae’r cynllun yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol, cynllunio ariannol a threfniadau llywodraethu Grŵp Cynefin. Mae’n cryfhau gwytnwch y sefydliad, yn cefnogi creu gwerth hirdymor ac yn sicrhau ei fod yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau’r dyfodol wrth barhau i fuddsoddi mewn cartrefi, cymunedau a gwasanaethau.
Wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd, mae’r cynllun yn nodi llwybr clir ar gyfer twf a buddsoddiad cynaliadwy ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys. Mae hefyd yn cefnogi strategaeth gorfforaethol Grŵp Cynefin, Lle i Berthyn, sy’n canolbwyntio ar ddarparu cartrefi o safon, cryfhau cymunedau a chreu cyfleoedd i bobl ledled yr ardal weithredu.
Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin :
“Mae ein Cynllun Busnes 30 Mlynedd diwygiedig yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol Grŵp Cynefin. Mae’n nodi llwybr ffordd clir a chynaliadwy a fydd yn ein galluogi i barhau i fuddsoddi yn ein cartrefi, ein cymunedau a’r gwasanaethau sydd bwysicaf i’n tenantiaid.
“Mae’r cynllun yn cynnwys darparu 503 o gartrefi newydd, ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol yn ein stoc dai bresennol i sicrhau ei fod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Yr un mor bwysig, bydd yn cefnogi swyddi lleol, busnesau lleol a’n cadwyn gyflenwi ranbarthol, gan sicrhau bod ein buddsoddiad yn creu buddion economaidd a chymdeithasol hirdymor i’r cymunedau rydyn ni yn eu gwasanaethu.
“Rydyn ni’n uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, ac mae’r cynllun hwn yn rhoi’r hyder, y gwytnwch a’r gallu i ni symud Grŵp Cynefin ymlaen, manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a pharhau i greu llefydd lle gall pobl a chymunedau ffynnu.”
Ochr yn ochr â chyflenwi cartrefi newydd, bydd y rhaglen fuddsoddi yn gwella ac yn diogelu eiddo presennol i’r dyfodol, gan helpu i sicrhau bod cartrefi yn parhau i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru wrth ymateb i ddisgwyliadau cwsmeriaid a gofynion rheoleiddiol cyfnewidiol.
Yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy, bydd y rhaglen yn cefnogi cyflogaeth leol, cadwyni cyflenwi rhanbarthol a thwf economaidd ehangach, gan sicrhau bod buddsoddiad yn darparu manteision cymdeithasol ac economaidd parhaol ar draws y cymunedau y mae Grŵp Cynefin yn eu gwasanaethu.
Mae’r cynllun busnes wedi’i ddatblygu’n ofalus i sicrhau bod Grŵp Cynefin yn gallu parhau i fuddsoddi mewn cartrefi a chymunedau tra’n cynnal sefyllfa ariannol gref a chynaliadwy. Mae rhagolygon yn dangos cryfder parhaus ar draws mesurau ariannol allweddol, gan ddarparu’r gallu a’r gwytnwch sydd eu hangen i gefnogi penderfyniadau buddsoddi hirdymor mawr.
Mae’r cyhoeddiad yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol o ansawdd uchel, ynni-effeithlon erbyn 2030, gyda chymdeithasau tai yn chwarae rhan allweddol wrth gynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ledled Cymru.
Er mwyn cefnogi cyflawni ei uchelgeisiau buddsoddi, mae Grŵp Cynefin yn bwrw ymlaen â chynlluniau i sicrhau tua £40 miliwn o gyllid hirdymor ychwanegol. Bydd y cyllid yn helpu i gyflymu buddsoddiad mewn cartrefi presennol, cefnogi rhaglenni gwella cyfalaf a darparu’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni blaenoriaethau tai a chymunedol yn y dyfodol.
Gyda mwy na £200 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer buddsoddiad, 503 o gartrefi newydd wedi’u cynllunio a gwelliannau parhaus i eiddo presennol, mae’r cynllun busnes yn darparu map ffordd clir ar gyfer darparu tai fforddiadwy, cefnogi economïau lleol a chynnal cymunedau ffyniannus ar draws gogledd Cymru a Phowys am y tri degawd nesaf.
-
Cysgod Lefain, Nefyn.
07970 142305