Grŵp Cynefin yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwrando a gweithredu i ddiogelu pobl
Mae Grŵp Cynefin yn nodi Wythnos Diogelu Oedolion 2026 drwy dynnu sylw at y rôl sydd gan sefydliadau, gweithwyr proffesiynol a chymunedau i’w chwarae wrth helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Thema genedlaethol yr wythnos eleni yw “Pob Llais. Pob Dewis.” sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd gwrando ar bobl, parchu eu dewisiadau a’u cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Mae’r thema’n adlewyrchu agwedd Grŵp Cynefin at wasanaethau, gyda ffocws ar roi tenantiaid a chwsmeriaid wrth galon penderfyniadau a gweithio mewn partneriaeth i gefnogi pobl a chymunedau.
Mae gwaith Grŵp Cynefin yn cynnwys cefnogi pobl drwy wasanaethau tai, tai â chefnogaeth ac ymyrraeth gynnar. Yn ogystal mae Sally Baxter yn Aelod o’r Bwrdd Rheoli sydd a chyfrifoldeb penodol am ddiogelu.
Meddai Sally Baxter:
Mae diogelu pobl yn gyfrifoldeb sy’n ymestyn ar draws y sefydliad. Fel Bwrdd, rydyn ni eisiau sicrhau bod diogelu yn rhan annatod o’n diwylliant, ein penderfyniadau a’r ffordd rydyn ni’n darparu gwasanaethau.
Mae’r thema ‘Pob Llais. Pob Dewis’ yn ein hatgoffa ni bod diogelu da yn dechrau drwy wrando. Mae’n rhaid i bobl deimlo eu bod nhw’n cael eu clywed, eu parchu a’u cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Ychwanegodd Rhiannon Dafydd Cyfarwyddwr Cymdogaethau Dros Dro Grŵp Cynefin:
“Mae ein cydweithwyr yn gweithio’n agos gyda thenantiaid a chwsmeriaid bob dydd ac maen nhw mewn sefyllfa bwysig i sylwi pan fydd rhywbeth wedi newid neu pan allai rhywun fod angen cymorth.
“Does dim rhaid i bryder fod yn amlwg bob amser. Gall fod yn newid bach mewn ymddygiad, pryder am amgylchiadau rhywun neu rywbeth sydd ddim yn teimlo’n iawn. Dyna pam mae gwrando, chwilfrydedd proffesiynol a gweithio gyda’n partneriaid mor bwysig.
“Ein nod ni yw cefnogi pobl i fyw’n ddiogel, gyda chymaint o ddewis, annibyniaeth ac urddas â phosibl.”
Mae Grŵp Cynefin hefyd yn rhoi pwyslais arbennig ar gyd-weithio cynhyrchiol mewn partneriaeth ac asiantaethau diogelu.
Daw Wythnos Diogelu Oedolion 2026 i ben ddydd Sul 22 Tachwedd. Mae’r ymgyrch genedlaethol, sy’n cael ei chydlynu gan Ann Craft Trust, yn annog sefydliadau a chymunedau i gydweithio i greu diwylliannau mwy diogel.