Grŵp Cynefin yn cwblhau buddsoddiad gwerth £675,000 ym Mhenrhydeudraeth

Mae Grŵp Cynefin wedi cwblhau rhaglen fuddsoddi gwerth £675,000 yn eu cartrefi yn Trem y Moelwyn, Penrhydeudraeth. Mae’n golygu gwella effeithlonrwydd o ran ynni yn sylweddol i 18 o gartrefi,  gan gynnig amgylchedd byw cynhesach, mwy cyfforddus a fforddiadwy i’r tenantiaid.

Ariannwyd y prosiect drwy gyfuniad o Raglen Ôl-osod Optimedig Llywodraeth Cymru a Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf Grŵp Cynefin ei hun. Cyflawnwyd y gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y contractwyr GH James Cyf a chwmni asiant Wakemans.

Roedd y rhaglen yn cynnwys gosod ffenestri a drysau newydd, inswleiddio waliau allanol (EWI), soffits, fascias ac offer dŵr glaw I’r holl dai.

O ganlyniad i’r gwelliannau, mae pob un o’r 18 cartref wedi cyrraedd sgôr perfformiad ynni SAP B, gan wella eu heffeithlonrwydd ynni yn sylweddol a helpu tenantiaid i leihau costau gwresogi ac allyriadau carbon.

Mae’r buddsoddiad yn rhan o ymrwymiad parhaus Grŵp Cynefin i gynnal safon eu cartrefi, cefnogi amcanion cynaliadwyedd a chreu cynefinoedd iachach i denantiaid.

Yn ogystal â’r uwchraddio effeithlonrwydd ynni, rhoddwyd ystyriaeth i wedd allanol y tai i adleisio edrychiad Maes Deudraeth, y stâd newydd gyfagos sy’n cael ei rheoli ar y cyd gan Grŵp Cynefin a ClwydAlyn. Mae hyn wedi helpu i greu edrcyhiad mwy cyson ac argraff o barhad ar draws y ddwy stad, gan gryfhau’r ymdeimlad o gymuned a gwella’r amgylchedd.

Meddai Rhodri Owen, Cyfarwyddwr Asedau a Thwf, Grŵp Cynefin:

“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod tenantiaid yn byw mewn cartrefi sy’n gynnes, yn effeithlon o ran ynni ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Drwy weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid cyflenwi, rydyn ni wedi trawsnewid y cartrefi i safonau perfformiad uchel, gan helpu tenantiaid i leihau eu biliau ynni a chreu cartrefi mwy cysurus a llesol.

“Rydyn ni’n falch hefyd bod y gwelliannau yn cyfrannu at adfywio ehangach yr ardal. Trwy wella ymddangosiad y cartrefi presennol a chreu cysylltiad gweledol agosach â’r datblygiad cyfagos, rydyn ni’n helpu i feithrin cymuned gryfach a mwy deniadol i’r trigolion presennol a rhai’r dyfodol.”

Mae cwblhau’r prosiect yn nodi carreg filltir bwysig arall yn rhaglen Grŵp Cynefin o fuddsoddi mewn cartrefi presennol a chefnogi taith Cymru tuag at ddyfodol carbon isel.

Cookie Settings