Recriwtio ar waith am Brif Weithredwr Grŵp Cynefin

Mae’r broses ar waith i ddod o hyd i Brif Weithredwr i arwain y grŵp i’w gyfnod nesaf o dwf a datblygiad.

Bydd y Prif Weithredwr newydd yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi cynllunio strategol, goruchwylio newid trawsnewidiol, a gwireddu potensial y grŵp i’r dyfodol.

Mae cefnogi cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig hefyd yn ganolog i waith y grwp.

Yr arbenigwyr recriwtio Goodson Thomas sy’n arwain ar y broses recriwtio gyda mwy o wybodaeth yma. Mae dyddiad cau ceisiadau ar 5 Ebrill 2024.

Cookie Settings