Grŵp Cynefin yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i droi adeiladau gwag yn gartrefi

Mae Grŵp Cynefin, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd, wedi adfywio pedwar eiddo gwag yng Ngwynedd fel rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cartrefi fforddiadwy a chynnal cymunedau gwledig.

Mae’r tai, ym Mhorthmadog, Trefor, Penrhosgarnedd a Brynrefail, wedi cael eu trawsnewid o eiddo gwag i gartrefi teuluol modern, ynni-effeithlon a hygyrch.

Mae’r gwaith yn rhan o Raglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) Llywodraeth Cymru sy’n anelu at gynyddu cartrefi fforddiadwy yng Nghymru drwy:

  • ddod ag eiddo segur neu wedi eu cau i fyny yn ôl i ddefnydd
  • ail-fodelu llety presennol
  • droi adeiladau’n llety o ansawdd da
  • ddefnyddio dulliau modern o adeiladu fel math tymor canolig o dai ar rai safleoedd wrth iddynt gael eu datblygu ar gyfer tai parhaol.

Caiff y gwaith ei gyflawni a’r prosiect ei reoli gan bartneriaeth gyda’r contractwyr ‘Novus Property Solutions’ sy’n arbenigo yn y math yma o brosiectau adnewyddu.

I un o denantiaid newydd un o’r cartrefi, mae wedi golygu newid bywyd iddi hi a’i phlentyn ifanc.

“Ro’n i’n ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro i’r  digartref,” meddai Mia.

Mae’n braf gwybod nad oes ‘na angen i mi symud eto hefo’r bychan, rydan ni mor hapus yma. Mae’n braf, a saff.

Meddai Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu, Grŵp Cynefin:

“Mae cwblhau eiddo TACP yng Ngwynedd yn dyst i’n hymrwymiad parhaus ni yn Grŵp Cynefin i greu cymunedau bywiog a chynaliadwy.

Mae argyfwng tai yng Nghymru ac rydyn ni wedi ymroi i ddelio â’r mater hwn yn y siroedd rydyn ni  yn gweithredu ynddyn nhw. Mae’r cydweithio rhyngon ni  a Chyngor Gwynedd yn ganlyniad rhannu gweledigaeth i fynd i’r afael â her darparu cartrefi yng Ngwynedd a chreu atebion cynaliadwy a chynhwysol.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol, cymunedau a Llywodraeth Cymru i wneud newid cadarnhaol a pharhaol.”

Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo:

“Rydw i’n croesawu’r newyddion bod adeiladau gwag ar draws Gwynedd yn cael eu troi’n gartrefi i’r rhai sy’n cael eu heffeithio arnynt waethaf gan yr argyfwng tai yn y sir.

“Mae cefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain yn brif flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen i barhau â’n cydweithio hefo Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru ar y cynllun yma, gan weithio hefo’n gilydd i daclo’r argyfwng tai yn uniongyrchol.

“O ganlyniad i brynu’r eiddo yma, bydd mwy o dai ar gael i unigolion a theuluoedd symud o lety brys, anaddas fel gwestai a gwely a brecwast i lety dros dro o ansawdd da, gan ganiatáu i bobl symud ymlaen â’u bywydau a chael sefydlogrwydd.”

Mae Grŵp Cynefin yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i ddatblygu unedau pellach yng Nghricieth a gyda chynghorau Conwy, Sir Ddinbych ac Ynys Môn i ddod ag eiddo eraill yn ôl i ddefnydd fel cartrefi, gyda chyllid TACP.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin mari.williams@grwpcynefin.org.

07970 142 305

28.02.24

Cookie Settings