Ceisiadau ar agor ar gyfer comisiwn celf cymunedol cyffrous!

Fel rhan o ailddatblygiad Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn chwilio am artist neu artistiaid lleol i greu darn unigryw o gelf i’w fwynhau gan y trigolion, y staff ac ymwelwyr.

Mae Grŵp Cynefin yn galw ar artistiaid o bob disgyblaeth i wneud cais am y comisiwn sylweddol, i’w gyflawni dros fisoedd Mehefin i Dachwedd eleni.

Mae Llys Awelon yn dod i ddiwedd ailddatblygiad sylweddol i foderneiddio ac ehangu’r adeilad presennol i greu cynllun carbon isel, pwrpasol o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych. Bydd 35 o fflatiau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y 21 cartref presennol. Mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cwmni lleol, Read Construction, sy’n ail-ddatblygu’r safle. Fel rhan o gymal gwerth cymdeithasol eu cytundebt, maen nhw, ynghyd â Grŵp Cynefin yn ariannu’r prosiect celf cymunedol.

Yn ogystal â darn unigryw a deniadol o gelf, y nod yw y bydd y broses greadigol ei hun yn brosiect cydweithredol a chynhwysol dan arweiniad yr artist neu’r artistiaid. Y gobaith yw dod â chenedlaethau iau a hŷn at ei gilydd drwy sesiynau gyda thrigolion presennol Llys Awelon a disgyblion o ysgol gynradd Ysgol Pen Barras yn Rhuthun. Mae elfen amgylcheddol a chynaliadwy hefyd yn cael ei annog.

“Mae’r broses o greu darn o gelf ar gyfer Llys Awelon yr un mor bwysig â’r darn celf gorffenedig,” meddai Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin.

“Rydyn ni am i’r broses fod yn gyffrous ac yn gywaith, gyda syniadau a chyfraniad gan y rhai sydd wedi gwneud Llys Awelon yn gartref, a phlant lleol. Mae gweithgareddau pontio’r cenedlaethau bob amser yn cael ei annog gan Grŵp Cynefin gan eu bod mor fuddiol i bawb sy’n cymryd rhan. Ond mae dod â’r cenedlaethau hynny at ei gilydd i greu darn o gelf yn hynod gyffrous. Mae’n gomisiwn gwych i artist, neu artistiaid, gan y gallwn ystyried ceisiadau ar y cyd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddyfarnu’r comisiwn yn fuan.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma gyda briff manwl, gwerth y contract a sut i wneud cais am y comisiwn. Y dyddiad cau yw dydd Iau, 29 Chwefror 2024, 12pm.

Am fwy o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â

Mari Williams
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin
Mari.Williams@grwpcynefin.org
07970 142 305

Cookie Settings