Grŵp Cynefin yn adennill ei statws o gydymffurfiaeth

Mae statws rheoleiddiol Grŵp Cynefin wedi ei adolygu, cyhoeddodd Rheoleiddiwr Tai Llywodraeth Cymru heddiw (Dydd Iau 9 Mai).

Bellach mae’r gymdeithas dai yn cydymffurfio (melyn) ar ddwy safon, Llywodraethu (gan gynnwys Gwasanaethau Tenantiaid) a Hyfywedd Ariannol. Cafodd y dyfarniad ei is-raddio y llynedd, yn dilyn adolygiad mewnol o rai rhannau o’r busnes a hunan-gyfeiriad at y Rheoleiddiwr.

Ers y llynedd, mae’r grŵp wedi bod y gweithio’n agos a thrylwyr gyda’r Rheoleiddiwr i ddatblygu cynllun a gwneud newidiadau i’w prosesau.

Croesawyd y newydd gan Brif Weithredwr newydd Grŵp Cynefin. Meddai Mel Evans, sydd wedi bod yn Brif Weithredwr Dros Dro am flwyddyn ac a benodwyd i’r swydd yn barhaol yr wythnos ddiwethaf:

“Adfer ein statws rheoleiddio fu ein prif amcan ers y newid llynedd, a dyma’r dyfarniad roedden ni wedi bod yn gweithio tuag ato. Rydw i yn hynod falch fy mod i yn dechrau fy nghyfnod fel Prif Weithredwr ar nodyn mor bositif. Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Rheoleiddiwr a hoffwn ddiolch iddyn nhw am y cyd-weithio hwylus.

Mae ein staff wedi rhoi o’u gorau dros y flwyddyn ddiwethaf i gyflawni’r hyn oedd ei angen ei wneud, ac mae statws cydymffurfio heddiw yn deyrnged i’w gwaith caled nhw a’u hymroddiad i’r cymunedau rydyn ni yn gweithio ynddyn nhw.

Meddai Tim Jones, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin:

“Hoffwn i ddiolch i’r holl staff am eu gwaith da, sydd wedi sicrhau ein bod wedi cyrraedd statws cydymffurfiaeth. Mae wedi bod yn gyfnod o newid sylweddol i’r sefydliad ond nawr gallwn edrych ymlaen at adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwn.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mari Williams,

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

07970 142 305

Cookie Settings