23 Hyd 2025
Agoriad swyddogol wedi gwaith £12.2 miliwn i ehangu cynllun tai pobol hŷn yn Rhuthun
Cafodd cynllun gofal tai ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun, Sir Ddinbych ei agoriad swyddogol heddiw, gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn bresennol. Mae cynllun Grŵp Cynefin wedi’i uwchraddio ac ehangu drwy fuddsoddiad o £12.2 miliwn, ac erbyn hyn mae’n cynnig annibyniaeth i ragor o bobl hŷn yn Sir Ddinbych. Yn ogystal ag adnewyddu’r adeilad blaenorol […]