Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Roedd dechrau mis Gorffennaf yn Wythnos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YGG), cyfle pwysig i ddweud beth yn union yw ymddygiad gwrthgymdeithasol, beth sydd ddim yn cael ei ystyried yn YGG, a beth i’w wneud os ydych chi’n profi problemau yn eich cymuned.
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith fawr ar fywyd bob dydd pobl, gan wneud iddyn nhw deimlo’n anniogel yn eu cartrefi neu yn eu hardal leol. Dyna pam ei bod hi’n bwysig gwybod beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhoi gwybod am unrhyw bryderon cyn gynted â phosib.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu bod yn:
- Niwsans sŵn difrifol a pharhaus
- Fandaliaeth a graffiti
- Ymddygiad bygythiol neu godi braw
- Cam-drin geiriol
- Aflonyddu hiliol
Yn syml, os ydi rhywbeth yn achosi ofn, gofid neu yn aflonyddu ar rhywun, mae’n bosib ei fod yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi gweld neu brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymuned chi, cysylltwch â ni. Drwy roi gwybod am broblemau’n gynnar, mi allwn ni weithio hefo chi i‘w datrys a chreu cymunedau mwy diogel i bawb.
Cofiwch fod adnoddau all eich helpu ar gael yma: Ymddygiad gwrthgymdeithasol – Grŵp Cynefin