Cyngor ar gyfer tywydd poeth

Mae’r tywydd poeth yma am ychydig mwy! Dyma rhai tips i edrych ar ôl eich hun a’ch cartref:  

  • Yfwch ddigon o ddŵr drwy’r dydd 
  • Cauwch eich llenni a bleinds – bydd yn helpu i gadw’ch ty yn oer  
  • Pan mae’n oerach – bore neu nos fel arfer – agorwch ffenestri os yn ddiogel i wneud  
  • Cadwch allan o’r haul ar yr amseroedd mwyaf poeth, yn enwedig rhwng 11am a 3pm
  • Cadwch lygad ar gymdogion, ffrindiau neu berthnasau – falle eu bod angen ychydig o help yn y tywdd poeth
  • Byddwch yn ofnadwy o ofalus hefo unrhyw dan neu farbeciw a gofalu diffodd yn iawn.  

Mwynhewch y tywydd braf, yn ddiogel!

Mwy o wybodaeth yma: Tywydd poeth – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cookie Settings