23 Rhag 2025

Oriau agor a chau dros y Nadolig

Hoffai Grŵp Cynefin ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n tenantiaid, cwsmeriaid, partneriaid a staff a diolch am bob cydweithrediad trwy gydol y flwyddyn.  Oriau agor a chau:  Cau: 5pm Dydd Mercher 24 Rhagfyr  Ail-agor: 9am Dydd Gwener 2 Ionawr  Bydd gwasanaeth ‘allan o oriau’ cyfyngedig ar gael i gyfarch materion cynnal a chadw brys yn ystod y cyfnod yma trwy ffonio’r rhif arferol – 0300 1112122. Ni fydd cyfryngau eraill yn cael eu monitro.  Cofiwch gallwch dalu eich rhent drwy amrywiol ffyrdd dros y cyfnod – manylion yma Talu rhent a materion ariannol – Grŵp Cynefin.  Byddwn yn dychwelyd atoch ynglŷn â materion llai o frys yn y flwyddyn newydd.  Mwynhewch Nadolig dedwydd a diogel. 

18 Rhag 2025

Dweud Eich Dweud am Ein Llais a’n Brand!

Mae Grŵp Cynefin yn adnewyddu ein llais a’n brand ac rydym eisiau’ch barn! Ydyn ni’n defnyddio gormod o jargon? Ydy ein negeseuon yn glir ac yn hawdd eu deall? Dyma’ch cyfle i helpu i lunio sut rydym yn cyfathrebu yn y dyfodol.  Ymunwch â ni am sesiwn anffurfiol a chyfeillgar lle byddwch chi’n gweld syniadau newydd cyffrous yn gyntaf ac yn rhannu’ch barn. Mae’ch barn yn bwysig!  ✅ Cinio am ddim 📅 Dydd Mercher, 4 Chwefror 2026 🕛 1:30 – 3:30pm 📍 Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst, LL26 0PW   

Cookie Settings