16 Gor 2026

Cyngor ar gyfer tywydd poeth

Mae’r tywydd poeth yma am ychydig mwy! Dyma rhai tips i edrych ar ôl eich hun a’ch cartref:   Yfwch ddigon o ddŵr drwy’r dydd  Cauwch eich llenni a bleinds – bydd yn helpu i gadw’ch ty yn oer   Pan mae’n oerach – bore neu nos fel arfer – agorwch ffenestri os yn ddiogel i wneud   Cadwch allan o’r haul ar yr amseroedd mwyaf poeth, yn enwedig rhwng 11am a 3pm Cadwch lygad ar gymdogion, ffrindiau neu berthnasau – falle eu bod angen ychydig o help yn […]

16 Gor 2026

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Roedd dechrau mis Gorffennaf yn Wythnos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YGG), cyfle pwysig i ddweud beth yn union yw ymddygiad gwrthgymdeithasol, beth sydd ddim yn cael ei ystyried yn YGG, a beth i’w wneud os ydych chi’n profi problemau yn eich cymuned. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith fawr ar fywyd bob dydd pobl, gan wneud iddyn nhw […]

03 Meh 2026

Deddf Hawliau Rhentwyr – beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Beth yw’r Ddeddf Hawliau Rhentwyr?   Mae hon yn gyfraith newydd sy’n cryfhau hawliau tenantiaid. Mae llawer o sôn amdani yn y cyfryngau, felly rydyn ni am egluro beth mae’n ei olygu i chi fel tenant yng Nghymru.   Yng Nghymru, mae’r Ddeddf hon yn newid Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru). Mae  newidiadau pwysig i denantiaid cymdeithasol a […]

03 Meh 2026

Newid i’ch Rhent a Thâl Gwasanaeth

Bydd rhai ohonoch yn gweld cynnydd rhent ym mis Hydref. Os hynny, byddwch yn cael llythyr yn fuan nodi beth fydd eich rhent a beth fydd eich tâl gwasanaeth o fis Hydref ymlaen. Bydd rhestr hefyd yn dangos beth mae’r tâl gwasanaeth yn ei dalu amdano.   Mae’n bwysig eich bod yn darllen y llythyr pan ddaw. Ac […]

08 Ebr 2026

Peidiwch oedi cyn adrodd ar broblem

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn set o reolau y mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol eu dilyn i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn iach ac yn gyfforddus. Mae rheolau newydd SATC yn golygu bod landlordiaid yn gorfod ymateb i risgiau iechyd a diogelwch o fewn amser penodol. Beth mae hyn yn […]

04 Maw 2026

Be’ sy’n mynd ymlaen ar ein safleoedd adeiladu?

Dyma gipolwg cyffrous ar rai o’n datblygiadau mwyaf newydd, sy’n dod at ei gilydd ac yn barod i groesawu trigolion newydd dros y misoedd nesaf. Nefyn Rydyn ni ar hyn o bryd yn adeiladu 14 o gartrefi newydd yn Nefyn. Disgwylir i’r cartrefi fod yn barod i denantiaid erbyn Hydref 2026. Os oes gennych ddiddordeb […]

04 Maw 2026

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Gobeithio gwnaeth pawb gael Dydd Gŵyl Dewi bendigedig!  Roedd yr orymdaith flynyddol yn Ninbych yn un llwyddiannus iawn eto eleni, gyda digon o liw, cerddoriaeth a hwyl.   Aethom i hwyl yr ŵyl yn ein swyddfa yn Ninbych, ac roedd yn braf gweld cymaint o wynebau cyfarwydd (a rhai newydd!) yn dod at ei gilydd i ddathlu ein diwrnod cenedlaethol.  Diolch yn fawr i bawb ddaeth i gefnogi. 

26 Ion 2026

Tasg a Gorffen Polisi Cartref Cywir o’r Maint Iawn

Diolch am eich adborth! Rydyn ni bellach wedi cwblhau’r sesiynau Tasg a Gorffen Right Home, Right Size, lle bu tenantiaid a staff yn gweithio gyda’i gilydd i lunio polisi newydd i fynd i’r afael ag or-orlenwi ac isddefnyddio. Mae eich mewnbwn wedi ein helpu i greu dull cliriach a mwy cefnogol, a fydd yn ein […]

20 Ion 2026

Tamprwydd a Llwydni

Os oes gennych damprwydd neu lwydni yn eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu gyda ni. Gorau po gynta’ i ni gael gwybod er mwyn cael trin y broblem. Dilynwch y linc isod ble mae fideo a llyfryn llawn tips sut i atal y tamprwydd, yn ogystal â ffurflen ar-lein i adrodd ar unrhyw […]

23 Rhag 2025

Oriau agor a chau dros y Nadolig

Hoffai Grŵp Cynefin ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n tenantiaid, cwsmeriaid, partneriaid a staff a diolch am bob cydweithrediad trwy gydol y flwyddyn.  Oriau agor a chau:  Cau: 5pm Dydd Mercher 24 Rhagfyr  Ail-agor: 9am Dydd Gwener 2 Ionawr  Bydd gwasanaeth ‘allan o oriau’ cyfyngedig ar gael i gyfarch materion cynnal a chadw brys yn ystod y cyfnod yma trwy ffonio’r rhif arferol – 0300 1112122. Ni fydd cyfryngau eraill yn cael eu monitro.  Cofiwch gallwch dalu eich rhent drwy amrywiol ffyrdd dros y cyfnod – manylion yma Talu rhent a materion ariannol – Grŵp Cynefin.  Byddwn yn dychwelyd atoch ynglŷn â materion llai o frys yn y flwyddyn newydd.  Mwynhewch Nadolig dedwydd a diogel. 

Cookie Settings