Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr fod ein tenantiaid yn teimlo’n ddiogel yn eu cartref ac ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei ddioddef.

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol/gwaharddedig yn cael ei ddiffinio fel hyn gan y gyfraith:

“achosi neu’n debygol o achosi aflonyddwch, ofn neu achosi gofid i un neu fwy nag un person nad ydynt o’r un cartref” (Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998)

Dyma rai enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol/gwaharddedig

  • fandaliaeth, graffiti neu ollwng sbwriel
  • niwsans sŵn
  • ymddygiad bygythiol neu ymddygiad sy’n codi ofn
  • cam-drin geiriol
  • aflonyddu hiliol
  • troseddau cerbydau
  • camddefnyddio tân gwyllt
  • ymddygiad hwliganaidd a grwpiau bygythiol

Nid yw hon yn restr gyflawn a gall mathau eraill o ymddygiad gael eu cyfri yn ymddygiad gwrthgymdeithasol/ gwaharddedig.

Bydd unrhyw fath o aflonyddu, cam-drin geiriol neu gam-drin corfforol yn cael eu hystyried yn weithredoedd difrifol. Ni fedrwn dderbyn unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol/ gwaharddedig yn ein cartrefi.

Yn Grŵp Cynefin rydan ni eisiau cefnogi tenantiaid i gael perthynas dda gyda’u cymdogion. Dylai pob un o’n tenantiaid fwynhau cymdogaeth ddiogel a chroesawgar.

Rydym wedi creu polisi ar y cyd hefo cynrychiolaeth o denantiaid – Rheoli Cymdogaethau Da. Ei fwriad yw eich grymuso i gael sgwrs gyda chymdogion pan fydd rhywbeth yn eich poeni e.e swn yn cario, ond efallai nad yw eich cymydog yn ymwybodol o hyn.

Allwn ni ddim disgwyl i chi ddelio â materion sy’n eich poeni heb i ni roi’r offer i’ch helpu – felly rydyn ni wedi creu pecyn cymorth i denantiaid ei ddefnyddio a chyfeirio ato pan rydych eisiau codi rhywbeth gyda’ch cymydog – rhywbeth sydd yn methu cael ei ystyried fel ymddygiad ‘gwrthgymdeithasol’. Mae posib lawrlwytho’r pecyn cymorth yma.

Hefyd wele’r Cerdyn ‘Annwyl Gymydog‘ all gael ei brintio fel gallwch ei roi i’ch cymydog, os nad ydych yn gallu cael y sgwrs.

Llun o 'the noise app' sydd ar ApCynefin

ApCynefin

Eisiau monitro lefel sŵn?  Lawrlwythwch ein ap.

Awyr las gyda chymylau gwyn a du trawiadol

Rhoi gwybod i ni

Eisiau rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol/gwaharddedig?

Cookie Settings