Neges Credyd Cynhwysol

Y flwyddyn rhent 53 wythnos  – beth mae’n olygu i chi?

Ar gyfer y mwyafrif o’n deiliaid contract, codir y rhent bob wythnos ar ddydd Llun. Rhwng 1 Ebrill 2024 a 5 Ebrill 2025, mae 53 dydd Llun yn y flwyddyn ariannol hon.

Rydym eisiau rhoi gwybod i chi pam bod hyn, beth mae’n olygu i chi a beth sydd falle angen i chi wneud.

Pam bod hyn yn digwydd?

Mae hyn yn digwydd bob pum neu chwe mlynedd oherwydd bod 365 diwrnod mewn blwyddyn neu 366 mewn blwyddyn naid. Mae hynny’n torri lawr i 52 wythnos ac un diwrnod mewn blwyddyn neu 52 wythnos a dau ddiwrnod mewn blwyddyn naid. Mae’r diwrnodau ychwanegol hyn yn cronni i wneud wythnos ychwanegol bob pum neu chwe mlynedd.

Ar bwy mae hyn yn effeithio?

Mae hyn yn effeithio ar unrhyw ddeiliad contract sydd â chontract wythnosol. Bydd angen i ddeiliad contract sydd â chontract wythnosol dalu er mwyn cyfro costau’r rhent wythnos 31 Mawrth 2025. Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu am yr wythnos ychwanegol o rent – bydd angen i chi dalu.

Beth dwi angen gwneud os dwi’n cael Credyd Cynhwysol? 

Dim ond hyd at 52 wythnos y flwyddyn o rent mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei dalu ar gyfer tenantiaethau wythnosol, maent yn cyfrifo rhent wythnosol drwy luosi’r gost wythnosol hefo 52 ac yna rhannu rhwng 3 i roi swm misol ar gyfer taliadau Credyd Cynhwysol.

Yn anffodus maent wedi cadarnhau na fyddant yn talu am y 53ain wythnos. Mae hyn hefyd yn berthnasol os telir eich rhent drwy daliadau unionyrchol o Gredyd Cynhywsol i’ch cyfrif rhent. Mae hyn yn golygu bod angen i chi dalu am yr wythnos ychwanegol eich hun. (Os oes gennych gytundeb mewn lle i dalu hwn ac os ydych yn cadw i’ch cytundeb i dalu does dim angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach ar hyn o bryd.)

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â ni ar 0300 1112122 neu e-bostiwch ni ar post@grwpcynefin.org i ni eich helpu gyda’r opsiynau.

Cofiwch: Gallwch wirio balans eich cyfrif rhent a/neu wneud taliad rhent 24/7 drwy ApCynefin.

Mae gwybodaeth defnyddiol a chyngor yma.

Peidiwch ag anghofio i’r mwyafrif ohonoch sy’n derbyn Credyd Cynhwysol (UC) nad oes unrhyw newid yn eich cost tai ym mis Ebrill (mae Grŵp Cynefin yn adolygu’r mwyafrif o’n rhenti ar gyfer y 1af o Hydref bob blwyddyn). Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi gadarnhau eich cost tai ar eich dyddiadur UC. Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw help arnoch

Cookie Settings