Yma i’ch Cefnogi

Mae Timau Lles a Chasglu Incwm Grŵp Cynefin yma i’ch cefnogi chi a darparu cyngor arbenigol ar hawlio budd-daliadau, cynyddu incwm, rheoli dyled a chyngor ariannol.

Cysylltwch â Timlles@GrwpCynefin.org neu ffoniwch 0300 1112122 i siarad ag aelod o’r Tîm Lles.

Talu rhent

Mae na fwy nag un ffordd y gallwch chi dalu rhent:

  • Trwy ApCynefin: Dolen i ApCynefin
  • Ffurflen talu ar-lein: Dolen i’r ffurlen dalu ar-lein
  • Trwy App Talu ar eich ffôn symudol – Dolen i’r app talu
  • Debyd uniongyrchol / taliad cerdyn debyd / talu dros y ffôn – ffoniwch ni i drefnu taliad / sefydlu taliad rheolaidd 0300 111 2122
  • Cerdyn rhent yn y Swyddfa Bost – cewch dalu gydag arian parod, siec neu gerdyn debyd
  • Cerdyn rhent mewn lleoliad PayPoint – cewch dalu gydag arian parod neu gerdyn debyd.

 

Cysylltwch â ni os ydych chi angen cerdyn rhent ar 0300 111 2122.

Tenantiaeth wythnosol

Byddwn yn codi rhent ar y dydd Llun bob wythnos. Er y byddai’n well gennym i chi dalu ar ddydd Llun, mi allwch chi dalu unrhyw ddiwrnod o’r wythnos cyn amser cinio dydd Sul yr wythnos honno.  Os byddai’n well gennych chi dalu bob pythefnos, 4 wythnos neu bob mis, mae croeso i chi wneud hynny ond bydd angen i ni gael y taliadau ymlaen llaw.

 

Tenantiaeth misol

Byddwn yn codi rhent ar y 1af o bob mis. Er y byddai’n well gennym i chi dalu ar y 1af o’r mis, mi allwch chi dalu yn ystod y mis cyn belled bod y taliad yn ein cyrraedd cyn amser cinio diwrnod ola’r mis hwnnw.

Dynes yn dal ffon gydag ApCynefin arno.

ApCynefin

Eisiau ffordd hawdd o dalu rhent?  Lawrlwythwch ein app!

awyr las gydag enfys ar draws hanner y llun

Cyswllt Cynefin

Os ydych chi eisiau help i dalu rhent, cysylltwch â ni.

Budd-daliadau

Dyma ddolen i Gyfrifiannell Budd-daliadau a Chyllidebu sy’n hawdd i’w ddefnyddio. Mi allwch chi weld

  • faint o fudd-dal ddylech chi gael
  • faint mwy o arian allech chi gael yn gweithio
  • sut y gall newidiadau yn eich cyllideb cartref effeithio ar eich incwm.

 

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell am ddim ac mae hefyd yn ffordd i chi wirio eich incwm a gwariant.

Cyfrifiannell budd-daliadau

Pa fudd-daliadau sydd yna?

Dyma restr i chi o’r budd-daliadau sydd ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n hawlio unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael i chi.

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sy’n eich helpu chi gyda’ch costau byw. Mae’n cael ei dalu yn fisol.

Efallai y gallwch chi ei gael os ydych chi ar incwm isel, allan o waith neu os ydych chi ddim yn gallu gweithio.

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli y budd-daliadau yma:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai (gan gynnwys costau tai)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Credyd Treth Gwaith

Mae mwy o fanylion am pwy sy’n gallu ei dderbyn a sut i wneud cais ar wefan y Llywodraeth –

Gwefan Credyd Cynhwysol

Wrth wneud cais am Gredyd Cynhwysol byddwch angen manylion swm eich rhent a’ch tâl gwasanaeth.

Cysylltwch â ni os nad ydynt gennych wrth law.

Os ydych chi ar incwm isel neu yn byw ar ben eich hun, mae’n bosibl y gallwch gael help i dalu’ch treth gyngor neu dalu llai.

Dilynwch y ddolen yma i gael mwy o fanylion am yr help sydd ar gael i dalu Treth Cyngor:

Gwefan Cyngor ar Bopeth

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)

Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng os ydych:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol
  • wedi colli eich swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Ni allwch ei ddefnyddio i dalu biliau parhaus nad ydych yn gallu fforddio eu talu.

Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)

Grant i’ch helpu chi, neu rywun yr ydych yn rhoi gofal iddo, i fyw’n annibynnol yn ei gartref neu eiddo yr ydych chi neu’r unigolyn yn symud iddo.

Gellir defnyddio’r grant hwn i gael:

  • oergell, popty neu beiriant golchi a ‘nwyddau gwyn’ eraill
  • dodrefn i’r cartref megis gwelyau, soffas a chadeiriau

Gwefan Cronfa Cymorth Dewisol

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn helpu unigolion sydd mewn caledi ariannol ac angen cymorth gyda thanwydd sydd ddim ar y grid.

Mae mwy o fanylion am pwy sy’n gallu cael taliad o’r Gronfa Cymorth Dewisol, a sut i wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru

Gwefan Cronfa Cymorth Dewisol

Cookie Settings