Beth sydd ymlaen mis Mawrth?

Mae yna lawer o ffyrdd i ddweud eich dweud yn ffurfiol ac yn anffurfiol fel tenant Grŵp Cynefin. Gallwch wir wneud gwahaniaeth i sut mae Grŵp Cynefin yn gwella a siapio ein gwasanaethau.

Eisiau gwybod mwy am yr holl mathau o ffyrdd medrwch gymryd rhan? Cliciwch yma am yr holl wybodaeth.

Dyma beth sydd ar y gweill mis Mawrth….

Cyfarfodydd Tenantiaid
Bob dydd Iau cynhelir cyfarfodydd ar-lein gyda grwpiau tenantiaid – ffordd wych o gadw mewn cysylltiad a derbyn barn tenantiaid ar ein gwasanaethau!


Hoffech chi fod yn rhan ohono? Cwblhewch y ffurflen Cymryd Rhan yma a dewis y sesiwn/sesiynau priodol.

eCymru

Mae Grŵp Cynefin yn rhan o eCymru, porth tai sy’n cysylltu cymunedau Cymru. Mae eCymru yn cynnig mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig a fedr helpu tenantiaid i fyw bywydau hapusach ac iachach.

I archebu lle neu i weld beth arall sydd gan eCymru i’w gynnig, ewch i’r wefan yma.

Oes gennych chi ddiddordeb cymryd rhan? Cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol am fwy o wybodaeth. 0300 111 2122 / mentraucymunedol@grwpcynefin.org

Cookie Settings