Lle i Berthyn – Ein Cynllun Corfforaethol 2025 – 2028

Rydyn ni’n hynod gyffrous i gyflwyno ein cynllun corfforaethol newydd ar gyfer 2025-28!

Lle i Berthyn

Mae’r cynllun wedi ei greu ar y cyd gan ymgysylltu â dros 500 o denantiaid, staff ac aelodau bwrdd o bob rhan o Grŵp Cynefin, i lunio a llywio ein strategaeth.

Trwy glywed a gwrando ar brofiadau, dyheadau a thrafod a herio, daethom i gytundeb ar ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer y tair blynedd nesaf:

*Tenantiaid a Chwsmeriaid
*Cartrefi
*Pobl
*Cymunedau
*Busnes

Cliciwch ar y ddolen i weld beth ydi ein cynlluniau ni.

Diolch i bawb a gymerodd ran ar y ‘daith’ – ein tenantiaid, cwsmeriaid, staff, aelodau bwrdd a fu’n frwd mewn diwrnodau bwrdd, gwibdeithiau, gweithdai, fforymau a holiaduron. Mae eich cyfraniad wedi bod yn amhrisiadwy.
Mi fyddwn ni yn parhau i gyd-ddylunio dyfodol Grŵp Cynefin yn yr un ffordd, gan ei wneud yn lle i ni i gyd berthyn.
Cookie Settings