Buddsoddi i gefnogi pobl, cryfhau gwasanaethau a llunio’r dyfodol

Mae Grŵp Cynefin yn parhau i gyflawni uchelgais ei gynllun corfforaethol, Lle i Berthyn, drwy fuddsoddi mewn swyddi newydd lle mae gwerthoedd yn ganolog. Bydd y swyddi hyn yn helpu i lunio pennod nesaf y sefydliad. 

Mae’r sector tai yn newid yn gyflym, gan ddod â chyfleoedd a heriau i denantiaid, cwsmeriaid, cymunedau a landlordiaid. Mewn ymateb, mae Grŵp Cynefin yn cryfhau ei adran Pobl a Diwylliant gyda thair swydd allweddol. Byddan nhw’n helpu’r sefydliad i wella gwasanaethau, cryfhau ymgysylltu, cefnogi ei bobl, ac adeiladu perthynas gryfach fyth â phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru. 

Mae Grŵp Cynefin nawr yn recriwtio ar gyfer: 

  • Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus 
  • Pennaeth Rhagoriaeth Tenantiaid a Chwsmeriaid 
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol 

Bydd y swyddi’n chwarae rhan bwysig wrth helpu’r sefydliad i wrando, dysgu a gwella’n barhaus. Byddan nhw’n cefnogi uchelgais Grŵp Cynefin i: 

  • ddarparu profiadau rhagorol i denantiaid a chwsmeriaid 
  • cyfathrebu gydag eglurder ac effaith 
  • datblygu ei bobl a’i allu arweinyddiaeth 
  • gweithio ar y cyd â phartneriaid i gyflawni dros gymunedau 

Meddai Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant Grŵp Cynefin: 

“Mae’r penodiadau hyn yn gam pwysig ymlaen i adran sy’n cefnogi’r sefydliad cyfan. Wrth i ddisgwyliadau newid ac i’r amgylchedd rydyn ni’n gweithredu ynddo barhau i esblygu, rydyn ni eisiau i’n gwasanaethau, ein diwylliant, ein cyfathrebu a phrofiad ein cwsmeriaid fod y gorau y gallan nhw fod. 

“Mae’r rhain yn swyddi sy’n cael eu harwain gan werthoedd, gyda phwrpas go iawn. Fe fyddan nhw’n ein helpu i gryfhau sut rydyn ni’n gwrando ar denantiaid a chwsmeriaid, yn cefnogi cydweithwyr i dyfu, ac yn adeiladu perthnasoedd dibynadwy gyda chymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid. 

“Os ydych chi’n arweinydd sy’n cael eich llywio gan werthoedd, ac eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym maes rhagoriaeth cwsmeriaid, cyfathrebu neu ddatblygu pobl yng ngogledd Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.” 

Mae Grŵp Cynefin yn gwahodd unrhyw un sy’n rhannu ei werthoedd, ac sydd eisiau helpu i greu lleoedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn, i wneud cais. 

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais ar gyfer y rhain a phob un o’n swyddi yma 

Cookie Settings