Adeiladu perthnasoedd a chreu cyfleoedd i fusnesau lleol
Yr wythnos hon, croesawodd Grŵp Cynefin gontractwyr lloriau o bob rhan o ogledd Cymru a gogledd Powys i ddigwyddiadau Dod yn Gontractwr Lloriau, ym Mhenygroes a Dinbych.
Rhoddodd y sesiynau gyfle i rannu manylion contract lloriau sydd ar fin ei ryddhau, esbonio gofynion caffael, cynnig canllawiau tendro ymarferol a helpu busnesau i ddeall sut i gael mynediad at gyfleoedd yn y dyfodol.
Cynhaliwyd y digwyddiadau mewn partneriaeth â GwerthwchiGymru a Busnes Cymru.
Denodd y digwyddiad nifer dda o gontractwyr bach a chanolig, ac amlygodd y trafodaethau yr arbenigedd a’r brwdfrydedd o fewn y gadwyn gyflenwi leol. Roedd yn arbennig o galonogol gweld busnesau bach a chanolig a chontractwyr ar wahanol gamau o’u taith, i gyd yn awyddus i ddysgu mwy am gaffael a gweld pa gyfleon sydd ar gael i weithio gyda Grŵp Cynefin.
Yn Grŵp Cynefin, mae adeiladu perthnasoedd masnachol dibynadwy, darparu gwerth am arian a chreu gwerth cymdeithasol yn ganolog i sut mae’r sefydliad yn gweithio. Fel y nodir yn y Cynllun Corfforaethol, Lle i Berthyn 2025-2028, mae partneriaethau cryf yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi buddsoddiad mewn cartrefi, gwasanaethau a chymunedau, wrth greu cyfleoedd i fusnesau lleol dyfu a ffynnu.
Meddai Betsan Ifan, Pennaeth Gwella Busnes Grŵp Cynefin:
“Yn Grŵp Cynefin, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud caffael mor hygyrch a thryloyw â phosibl. Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle i ni adeiladu perthynas â chontractwyr lleol, rhannu cyngor ymarferol a helpu busnesau i ddatblygu’r hyder i fynd am gyfleoedd yn y dyfodol.
“Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath ac roedden ni yn falch iawn o faint o ddiddordeb ddangoswyd a faint ddaeth ar y ddau ddiwrnod. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r sgyrsiau hyn wrth i ni gryfhau ein rhwydwaith cyflenwyr ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys.”
Meddai Dafydd Guto Carrod, Uwch Ymgynghorydd Cadwyn Gyflenwi Busnes Cymru:
“Mae ymgysylltu cynnar fel hyn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu busnesau i ddeall cyfleoedd caffael a pharatoi i gystadlu yn hyderus. Edrychwn ymlaen at edrych ar sut y gall Busnes Cymru gydweithio ymhellach â Grŵp Cynefin, cefnogi cyflenwyr lleol drwy’r broses dendro a’u helpu i gael mynediad at gyfleoedd yn y dyfodol.”
Mae’r llun yn dangos: Elgan Evans, Rheolwr Gwasanaeth Grŵp Cynefin, Kristian James, Ymgynghorydd Caffael Dros Dro, GC, Elfyn Roberts, Partner Busnes Caffael GC.
Ymholiadau’r cyfryngau: cyfathrebu@grwpcynefin.org