Diwrnod Garddio Maes y Môr, Tremadog
Bydd trigolion tai cysgodol Grŵp Cynefin ym Maes y Môr, Tremadog yn cael mwynhau gerddi hardd a thaclus wedi gwaith caled rhwng partneriaid wythnos yma.
Daeth trigolion Maes y Môr, staff Grŵp Cynefin a chontractwr tirlunio Sherratt Group Ltd at ei gilydd ar gyfer diwrnod o arddio, gan blannu blodau, tacluso llwybrau a gwrychoedd.
Y canlyniad yw gerddi braf a chroesawgar ar gyfer y trigolion.
Roedd cyfraniad cwmni Sherratt Group Ltd, o’r Wyddgrug yn rhan o’u hymrwymiad gwerth cymdeithasol, sef cyfraniad mae contractwyr Grŵp Cynefin yn cytuno iddo er lles y gymuned leol, gan roi eu hamser a’u harbenigedd. Darparwyd deunyddiau a chefnogaeth gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Meddai Stephen Owen, Rheolwr Cydymffurfiaeth a Diogelwch Adeiladau Grŵp Cynefin: ‘Roedd yn bleser bod yn rhan o’r prosiect yma. Mae’n wych gallu gwneud rhywbeth cadarnhaol i’r gymuned a gweithio ochr yn ochr â’r trigolion i greu amgylchedd gwell i bawb.’
Ychwanegodd Shona Saxon, Cyfarwyddwr Sherratt Group Ltd: ‘Roedden ni wrth ein bodd yn cefnogi diwrnod garddio cymunedol Maes y Môr fel rhan o’n hymrwymiad gwerth cymdeithasol. Roedd hi’n hyfryd gweithio ochr yn ochr â phreswylwyr, Grŵp Cynefin a Chadwch Gymru’n Daclus i helpu i greu lle awyr agored mwy disglair, taclus a chroesawgar i bawb ei fwynhau.’