Y diweddaraf

Grŵp Cynefin yn adennill ei statws o gydymffurfiaeth

09 Mai 2024

Mae statws rheoleiddiol Grŵp Cynefin wedi ei adolygu, cyhoeddodd Rheoleiddiwr Tai Llywodraeth Cymru heddiw (Dydd Iau 9 Mai). Bellach mae’r gymdeithas dai yn cydymffurfio (melyn) ar ddwy safon, Llywodraethu (gan gynnwys Gwasanaethau Tenantiaid) a Hyfywedd Ariannol. Cafodd y dyfarniad ei is-raddio y llynedd, yn dilyn adolygiad mewnol o rai rhannau o’r busnes a hunan-gyfeiriad at […]

Grŵp Cynefin yn penodi Prif Weithredwr

03 Mai 2024

Mae Grŵp Cynefin wedi penodi Melville Evans yn Brif Weithredwr. Mae Mel wedi bod yn Brif Weithredwr Dros Dro, yn y gymdeithas dai sy’n berchen ar ac yn rheoli tua 4,600 o dai ledled gogledd Cymru a Phowys, ers y 12 mis diwethaf. Yn Gyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin yn flaenorol, ymunodd Mel Evans […]

Recriwtio ar waith am Brif Weithredwr Grŵp Cynefin

28 Maw 2024

Mae’r broses ar waith i ddod o hyd i Brif Weithredwr i arwain y grŵp i’w gyfnod nesaf o dwf a datblygiad. Bydd y Prif Weithredwr newydd yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi cynllunio strategol, goruchwylio newid trawsnewidiol, a gwireddu potensial y grŵp i’r dyfodol. Mae cefnogi cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig […]

Grŵp Cynefin yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i droi adeiladau gwag yn gartrefi

28 Chw 2024

Mae Grŵp Cynefin, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd, wedi adfywio pedwar eiddo gwag yng Ngwynedd fel rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cartrefi fforddiadwy a chynnal cymunedau gwledig. Mae’r tai, ym Mhorthmadog, Trefor, Penrhosgarnedd a Brynrefail, wedi cael eu trawsnewid o eiddo gwag i gartrefi teuluol modern, ynni-effeithlon a hygyrch. Mae’r gwaith yn […]

Beth arall sy'n newydd?

Ffrwd Facebook

Dod o hyd i ni ar Facebook

Tai Gofal Ychwanegol

Cookie Settings