Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned

Hafod y Gest, Porthmadog

Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am gartref i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hyn, efallai mai Hafod y Gest ym Mhorthmadog yw’r lle i chi.

Cynllun gofal ychwanegol yw Hafod y Gest a sefydlwyd yn 2018 gan Grwp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Wedi ei leoli yng nghanol y dref, mae’r cynllun yn darparu cartref, cefnogaeth a gwasanaethau gofal i bobl dros 55 oed.

Mae Hafod y Gest yn cynnig ffordd o fyw’n annibynnol i bobl hŷn mewn lleoliad modern, cyfforddus a diogel. Mae gwir ymdeimlad o ysbryd cymunedol yma.

Byddwch yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 40 o fflatiau hunangynhaliol sydd ar y safle, ond gyda’r sicrwydd bod cefnogaeth ar gael 24 awr y dydd, os bydd angen.

Cefnogir preswylwyr a’u hannog i fyw bywyd llawn ac egnïol, gan ddatblygu eu diddordebau a chynnal eu hiechyd a’u lles. Mae staff Grwp Cynefin yn darparu cefnogaeth materion tai i bob tenant ac mae tîm gofal ymroddedig a phrofiadol ar y safle 24 awr y dydd. Bydd cynlluniau cefnogaeth a gofal personol hyblyg ar gael, pe bai angen, wedi eu datblygu gyda chi i weddu eich anghenion presennol ac i’r dyfodol.

Gyda’ch drws ffrynt eich hun, eich fflat yw eich cartref lle gallwch barhau i goginio, derbyn ymwelwyr a mwynhau byw’n annibynnol. O fewn pob fflat mae cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely. Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i’ch galluogi i fyw yn eich cartref eich hun cyn hired â phosib ac i wneud byw’n annibynnol yn haws.

Wrth rentu cartref yn Hafod y Gest, cewch hefyd fynediad i lolfa gymunedol lle mae cyfle i gymdeithasu â thrigolion eraill a mwynhau gweithgareddau fel celf a chrefft, boreau coffi, cwis, sesiynau ymarfer corff, canu mewn côr, sesiynau rhyng-genedlaethol gyda phlant a phobl ifanc lleol a gweithgareddau garddio. Mae ystafell grefftau hefyd ar gael i chi fwynhau a gweithio’n dawel.

Allan yn yr ardd yng nghanol y safle, cewch gyfle i ymlacio a mwynhau’r awyr iach. Mae byw yn Hafod y Gest yn eich galluogi i gynnal eich annibyniaeth a’ch preifatrwydd a chael y dewis i gymdeithasu a chyd-ymuno fel y dymunwch.

Gweinir pryd canol dydd yn y bwyty cymunedol yn ddyddiol, gan roi’r cyfle i drigolion dderbyn pryd iach a blasus wrth sgwrsio dros ginio.

 
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth bellach am rentu fflat yn Hafod y Gest, yna cysylltwch â ni.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org

Nodweddion Allweddol:

  • Eich tenantiaeth a’ch drws ffrynt eich hun
  • Gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd
  • Gweithgareddau ac ymdeimlad cymunedol
  • Gwasanaeth larwm, llinell gofal 24 awr ym mhob fflat
  • Gwasanaeth cynnal a chadw brys 24 awr
  • Pob fflat gyda chegin, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa
  • Dyluniad hwylus – cawodydd gyda mynediad lefel llawr, lifftiau a storfa sgwter
  • System mynediad drws diogel
  • Mannau cymunedol – lolfeydd ac ystafelloedd gweithgareddau
  • Ystafell fwyta
  • Golchdy
  • Ystafell trin gwallt
  • Ystafell i westeion aros
  • Gardd a gofod patio y tu allan
  • Digon o le i barcio ceir
Cookie Settings