Gwaith trwsio a chynnal a chadw
Rhoi gwybod am waith trwsio
Beth wnawn ni
Ein nod ydy gwneud unrhyw waith trwsio ydym ni’n gyfrifol amdano yn sydyn, ar amser cyfleus, i ansawdd uchel. Mae gennym hefyd raglen cynnal a chadw er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cartref mewn cyflwr da ac yn cwrdd â’n gofynion ni fel y Landlord.
Byddwn yn rhoi gwybod ac yn trafod unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen ar eich cartref. Mi wnawn ni hefyd holi os ydych chi yn hapus gyda’r gwaith ar ôl i ni orffen.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Yn dâl am hyn, rydym ni yn disgwyl i chi edrych ar ôl eich cartref. Dylech wneud unrhyw waith trwsio ydych chi yn gyfrifol amdano cyn gynted â phosibl. Bydd rhaid i chi adael i ni ddod i mewn i’r tŷ i wneud unrhyw waith trwsio neu gynnal a chadw.
Rhoi gwybod am waith trwsio
Cyn cysylltu â ni, gwiriwch i weld be’ sy’n gyfrifoldeb i chi a be’ sy’n gyfrifoldeb i ni.
Mae mwy o wybodaeth yn y llawlyfr tenantiaid
Os mai ein cyfrifoldeb ni ydy’r gwaith, neu os nad ydych chi’n siwr, cysylltwch â ni yma
Wedi symud i dŷ newydd?
Os ydych chi wedi symud i dŷ newydd ei adeiladu, efallai y byddwch yn gallu cael gwaith trwsio wedi ei wneud o dan warant.
Yswiriant
Tenantiaid sy’n gyfrifol am yswirio cynnwys eu tai. Bydd Grŵp Cynefin yn yswirio’r adeilad.
Gwaith trwsio brys
Rydym ar gael ar gyfer gwaith trwsio brys rhwng 5pm a 8:30am, ac ar benwythnosau + gŵyl banc.
Os ydych chi yn dioddef llifogydd neu doriad trydan, ffoniwch ni ar unwaith ar 0300 111 2122
ApCynefin
Eisiau ffordd hawdd i roi gwybod am waith trwsio? Lawrlwythwch ein app!
Mae mwy o wybodaeth am waith trwsio a chynnal a chadw yn eich Llawlyfr Tenantiaid.
Cysylltwch â Cyswllt Cynefin am gopi.