Tamprwydd a Llwydni
Tamprwydd a Llwydni yn eich cartref?
Mae tamprwydd a llwydni yn eich cartref yn gallu achosi pryder, yn enwedig yn y tywydd oer.
Os oes gennych damprwydd neu lwydni yn eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu gyda ni. Gorau po gynta’ i ni gael gwybod er mwyn cael trin y broblem.
Os yw’n broblem sydd wedi bod yn y cartref ers amser, gadewch i ni wybod. Allwn ni ddim cymryd camau i helpu a datrys oni bai ein bod yn gwybod, dim bwys pa mor fach neu fawr.
Rydyn ni fel landlord, yma i ddatrys y broblem.
Byddwn yn anfon swyddog allan i asesu’r sefyllfa o fewn saith diwrnod gwaith i dderbyn cais.
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddelio gyda’r broblem yn sydyn a di-drafferth.
Cysylltwch â ni ar 0300 111 2122 / e-bostio post@grwpcynefin.org neu cysylltwch yma