29 Medi 2026

Penodi cydweithwyr Grŵp Cynefin i Fwrdd TPAS Cymru

Mae TPAS Cymru wedi cyhoeddi aelodau newydd i’w Fwrdd Rheoli, sy’n cynnwys Ruth Yarwood (yn y llun), cynrychiolydd tenantiaid Grŵp Cynefin, a Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant.   Mae TPAS Cymru yn hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ac yn cefnogi tenantiaid a landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau tai.  Mae’r penodiadau yn […]

25 Medi 2026

Grŵp Cynefin wedi’i ryddhau o’i Ymrwymiad Gwirfoddol 

Mae Grŵp Cynefin wedi croesawu cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ei fod wedi cael ei ryddhau o’i Ymrwymiad Gwirfoddol.  Ymrwymwyd i hwn yn 2023 wedi i Grŵp Cynefin gyfeirio ei hun at y rheoleiddiwr tai ynghylch materion cydymffurfio â data.  Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu’r cynnydd sylweddol a wnaed i gryfhau trefniadau llywodraethu, sicrwydd, cydymffurfio, rheoli asedau […]

roadshow staff

24 Medi 2026

Buddsoddi i gefnogi pobl, cryfhau gwasanaethau a llunio’r dyfodol

Mae Grŵp Cynefin yn parhau i gyflawni uchelgais ei gynllun corfforaethol, Lle i Berthyn, drwy fuddsoddi mewn swyddi newydd lle mae gwerthoedd yn ganolog. Bydd y swyddi hyn yn helpu i lunio pennod nesaf y sefydliad.  Mae’r sector tai yn newid yn gyflym, gan ddod â chyfleoedd a heriau i denantiaid, cwsmeriaid, cymunedau a landlordiaid. […]

14 Awst 2026

Grŵp Cynefin yn cwblhau buddsoddiad gwerth £675,000 ym Mhenrhydeudraeth

Mae Grŵp Cynefin wedi cwblhau rhaglen fuddsoddi gwerth £675,000 yn eu cartrefi yn Trem y Moelwyn, Penrhydeudraeth. Mae’n golygu gwella effeithlonrwydd o ran ynni yn sylweddol i 18 o gartrefi,  gan gynnig amgylchedd byw cynhesach, mwy cyfforddus a fforddiadwy i’r tenantiaid. Ariannwyd y prosiect drwy gyfuniad o Raglen Ôl-osod Optimedig Llywodraeth Cymru a Rhaglen Buddsoddi […]

17 Gor 2026

Adeiladu perthnasoedd a chreu cyfleoedd i fusnesau lleol

Yr wythnos hon, croesawodd Grŵp Cynefin gontractwyr lloriau o bob rhan o ogledd Cymru a gogledd Powys i ddigwyddiadau Dod yn Gontractwr Lloriau, ym Mhenygroes a Dinbych.  Rhoddodd y sesiynau gyfle i rannu manylion contract lloriau sydd ar fin ei ryddhau, esbonio gofynion caffael, cynnig canllawiau tendro ymarferol a helpu busnesau i ddeall sut i gael mynediad at gyfleoedd yn y dyfodol.   Cynhaliwyd […]

06 Gor 2026

Diwrnod Garddio Maes y Môr, Tremadog

Bydd trigolion tai cysgodol Grŵp Cynefin ym Maes y Môr, Tremadog yn cael mwynhau gerddi hardd a thaclus wedi gwaith caled rhwng partneriaid wythnos yma.   Daeth trigolion Maes y Môr, staff Grŵp Cynefin a chontractwr tirlunio Sherratt Group Ltd at ei gilydd ar gyfer diwrnod o arddio, gan blannu blodau, tacluso llwybrau a gwrychoedd.  Y canlyniad yw gerddi braf a chroesawgar […]

26 Meh 2026

Grŵp Cynefin yn gwahodd contractwyr lloriau i ddigwyddiadau Dod yn Gontractwr Lloriau

Mae Grŵp Cynefin yn gwahodd contractwyr lloriau o ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys i fynychu cyfres o ddigwyddiadau Dod yn Gontractwr ym mis Gorffennaf, gan ganolbwyntio ar gyfle contract lloriau sydd ar y gweill. Cynhelir y digwyddiadau yn Nhŷ Silyn, Penygroes ar 15 Gorffennaf am 11:30am a Thŷ John Glyn, Dinbych ar 16 […]

Cookie Settings