Cymdeithasau tai yn galw am fwy o gefnogaeth i drigolion Gogledd Cymru sy’n wynebu pwysau costau byw
Mae cymdeithasau tai yng Ngogledd Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru am fwy o fuddsoddiad mewn cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy, yn ogystal â chymorth ariannol ehangach i helpu tenantiaid i ymdopi â chostau bwyd ac ynni cynyddol a chynnal tenantiaethau hirdymor.
Wrth siarad yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno heddiw (Dydd Gwener, 2 Hydref), daeth Grŵp Cynefin, Adra, Cartrefi Conwy, ClwydAlyn a Tai Gogledd Cymru ynghyd â Cartrefi Cymunedol Cymru i dynnu sylw at y pwysau cynyddol sy’n wynebu llawer o denantiaid, a’r gefnogaeth hanfodol sy’n cael ei darparu i helpu pobl i reoli costau cartref, gwella gwydnwch ariannol a chynnal eu lles.
Dywedodd Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin; Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra; Adrian Johnson, Prif Weithredwr Cartrefi Conwy; Clare Budden, Prif Weithredwr ClwydAlyn a Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:
“Mae tai cymdeithasol yn sector sy’n tyfu yng Ngogledd Cymru ac, gyda’n gilydd, rydym yn darparu 26,500 o gartrefi ar draws y rhanbarth ar gyfer 56,000 o bobl.
“Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi £510 miliwn i adeiladu 1,850 o gartrefi cymdeithasol diogel, cynnes a fforddiadwy yn ein cymunedau, er mwyn diwallu’r galw cynyddol. Rydym hefyd wedi buddsoddi £256 miliwn yn ein cartrefi presennol.
“Ond mae ein rôl yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddarparu cartrefi yn unig. Mae tai da yn sbardun ar gyfer nifer o feysydd blaenoriaeth allweddol, gan gynnwys iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, yr economi a’r iaith Gymraeg.
“Wrth wraidd ein gwaith mae cefnogi tenantiaid i ymdopi â materion fel costau byw, iechyd a lles, a darparu cyfleoedd i helpu ein tenantiaid i ffynnu drwy gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth.”
“Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith gwerthfawr hwn ac i ddangos sut rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd; fodd bynnag, mae angen mwy o gyllid a strategaeth hirdymor ar gyfer cefnogi tai er mwyn parhau i wneud hynny.”
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, Clarissa Corbisiero:
“Mae’r sesiwn ar y cyd hon yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn dangos pa mor benderfynol ac unedig yw ein sector i weithredu ei hun i leihau’r pwysau sy’n deillio o gostau cynyddol ar denantiaid ledled Cymru.”
“Fodd bynnag, ni all cymdeithasau tai ar eu pennau eu hunain wrthbwyso’n llawn y pwysau ehangach ar incymau aelwydydd sy’n deillio o ffactorau fel costau uchel bwyd ac ynni, dyledion a chyflogau isel, ac mae pryder cynyddol ynghylch lles tenantiaid wrth i’r gaeaf agosáu.
“Rhaid i Lywodraethau Cymru a’r DU gryfhau incwm cartrefi a’r rhwyd ddiogelwch cymdeithasol, gan gynnwys gwelliannau i Gredyd Cynhwysol, y Gronfa Cymorth Ddewisol a Thaliadau Tai Dewisol.
“Rhaid i hyn gael ei ategu gan fwy o fuddsoddiad i gynyddu nifer y cartrefi cymdeithasol sydd ar gael. Gallwn adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru a gwireddu’r adferiad tai, gan roi mwy o ddiogelwch i fwy o bobl drwy ddarparu lle diogel i’w alw’n gartref.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin
07970142305