Llyr Gruffydd AS yn Ymweld â Dinbych Uchaf i Ddathlu Dull Cymunedol sy’n Trawsnewid Cyfleoedd i Fod yn Actif

Croesawodd cynrychiolwyr Grŵp Cynefin, Gogledd Cymru Actif, Cyngor Sir Ddinbych, HWB Dinbych a DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) Llyr Gruffydd AS i Ddinbych Uchaf i ddangos sut mae dull sy’n cael ei arwain gan y gymuned yn helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl leol fod yn actif, yn gysylltiedig ac yn rhan o lunio eu cymuned.

Roedd yr ymweliad yn amlygu effaith dull seiliedig ar le sy’n rhoi pobl leol wrth galon gwneud penderfyniadau, gan adeiladu ar y cryfderau, y sgiliau a’r adnoddau sydd eisoes yn bodoli yn y gymuned. Dechreuodd y gwaith yn Ninbych Uchaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda Gogledd Cymru Actif yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Ddinbych gan gomisiynu Grŵp Cynefin i helpu i ddatblygu dull gweithredu sy’n cael ei arwain gan y gymuned yn yr ardal. Ers hynny, mae partneriaid wedi gweithio’n agos gyda thrigolion drwy HWB Dinbych i ddeall yn well beth sy’n bwysig i bobl leol a sut y gellir siapio cyfleoedd i fod yn actif o amgylch anghenion a dyheadau’r gymuned.

Roedd y fenter yn rhan o ddull peilot arloesol a lansiwyd ledled Gogledd Cymru yn 2023, gan helpu i lunio’r ffordd y mae partneriaid bellach yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Un enghraifft allweddol yw datblygiad y trac pwmp yng Nghae Hywel, a gafodd ei lywio gan sgyrsiau gyda phobl ifanc lleol ac sydd bellach yn darparu man hygyrch ar gyfer hamdden a gweithgarwch corfforol o fewn y gymuned. Roedd yr ymweliad yn cynnwys trafodaethau gyda phartneriaid lleol a thaith o amgylch yr ardal, gan roi cyfle i weld yn uniongyrchol sut mae lleisiau’r gymuned yn helpu i lunio cyfleusterau a chyfleoedd lleol.

Mae Dinbych Uchaf yn un o nifer o gymunedau ledled Gogledd Cymru lle mae Gogledd Cymru Actif a’i bartneriaid comisiynu yn gweithio ochr yn ochr â thrigolion i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Ar draws pob un o’r chwe ardal awdurdod lleol, mae partneriaid yn cefnogi cymunedau i ddylanwadu ar benderfyniadau, siapio cyfleoedd lleol a helpu i gael gwared ar rwystrau a all atal pobl rhag bod yn actif.

Meddai Tim Jones, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin:

“Mae’r bartneriaeth hon yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau yn dod at ei gilydd gyda phwrpas yn gyffredin. Mae’r cydweithrediad rhwng yr holl bartneriaid wedi bod yn amhrisiadwy, gan ddod ag arbenigedd, ymrwymiad ac awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau.”

Meddai Manon Rees-O’Brien, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru Actif:

“Rydym yn hynod falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn Ninbych Uchaf ac yn ddiolchgar i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’n partneriaid awdurdodau lleol ledled Gogledd Cymru a roddodd eu hymddiriedaeth ynom i dreialu’r dull hwn yn 2023. Mae’r hyn a ddechreuodd fel prawf o sut y gallem weithio’n wahanol wedi trawsnewid y ffordd rydym yn cefnogi cymunedau ledled y rhanbarth. Drwy wrando’n gyntaf, adeiladu ar gryfderau lleol a gweithio ochr yn ochr â phartneriaid cymunedol dibynadwy, rydym wedi gweld sut y gall newid ystyrlon a chynaliadwy ddigwydd pan fo pobl leol wrth galon y datrysiadau. Mae Dinbych Uchaf yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau, sefydliadau lleol a gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio o amgylch uchelgais gyffredin. Mae’r gwersi a ddysgwyd yma yn parhau i lywio’r ffordd rydym yn gweithio ledled Gogledd Cymru, gan ein helpu i greu cyfleoedd mwy cynhwysol i bobl fod yn actif a ffynnu yn eu cymunedau.”

Meddai un o’r bobl ifanc a arweiniodd ar y prosiect trac pwmp:

“Mae’n teimlo’n dda gweld pobl ifanc, yn defnyddio rhywbeth a wnaed gennyf i a fy ffrindiau. Mae’n debyg, yr unig ffordd y gallaf feddwl am ei ddisgrifio yw ei fod fel gweld ein llwyddiant, ac mae mor braf ei weld yn cael ei ddefnyddio, ac mor braf gweld pobl yn ei fwynhau ac yn dod o hyd i hobïau allan ohono.”

Cookie Settings