Arolwg Cartref
Ar ôl yr arolwg. Be’ rŵan?
Os ydych yn denant i Grŵp Cynefin byddwch wedi cael neu ar fin cael arolwg o gyflwr eich cartref. Mae hyn er mwyn i Grŵp Cynefin allu cynllunio gwaith gwella ac adnewyddu. Cwmni Rapleys sy’n gwneud y gwaith ar ein rhan.
Efallai bydd ychydig o amser nes byddwch yn clywed gennym yn dilyn yr arolwg. Mae hyn er mwyn i ni edrych ar yr holl wybodaeth gasglwyd a’i ddefnyddio ar gyfer creu cynllun sut i fuddsoddi yn y blynyddoedd i ddod.
Beth fydd y camau nesaf?
- Gwneud arolwg o 100% o eiddo Grŵp Cynefin
- Creu cynllun i wneud y gwaith mwyaf brys yn gyntaf
- Cyflawni ceisiadau adnewyddu hanesyddol sydd wedi eu cydnabod gan ein swyddogion
Ebrill 2025 ymlaen
Dechrau ar raglen fuddsoddi newydd, gan ddechrau gyda…
- Gwaith allanol
- Ceginau ac ystafelloedd ymolchi
Diolch am eich amynedd. Byddwn yn cysylltu hefo chi pan fydd newydd am waith i’ch cartref. Felly, os gallwch fod yn amyneddgar ac aros i ni gysylltu hefo chi, byddem yn ddiolchgar iawn.
Dim angen i chi gysylltu hefo ni – byddwn ni yn cysylltu hefo chi!
Os na drefnwyd arolwg eto, mae’n bwysig trefnu un.
Does ond angen i chi wneud dau beth!
- Ffonio Rapleys ar 01480 371 460 a dewis opsiwn 1 i Grŵp Cynefin a gadael enw a rhif cyswllt – fe wnawn nhw ffonio’n ôl
- Bod adre am 45 munud ar yr amser drefnwyd
Mwy yma am arolygon Rapleys