#YGôl Cefnogwch y tîm sy’n rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched

Mae uned  Grŵp Cynefin, Gorwel, yn galw ar gymunedau gogledd Cymru i gefnogi ymgyrch Diwrnod Rhuban Gwyn eleni – #YGôl – i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod  a merched. Fel rhan o’r ymgyrch, cynhaliodd Gorwel ddigwyddiad yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon i godi ymwybyddiaeth o’r effaith cam-drin domestig.

Eleni mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn disgyn ar yr un diwrnod â gêm Cymru yn erbyn Iran yng Nghwpan y Byd 2022 ac felly mae’n addas mai’r thema eleni yw #YGôl – ymgyrch sy’n galw ar bob dyn i ymuno â’r tîm i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

Fel rhan o’u cyfraniad i gefnogi’r ymgyrch, cynhaliodd Gorwel ddigwyddiad gyda Chlwb Pêl-droed Caernarfon, gan rannu gwybodaeth am wreiddiau ac effaith cam-drin domestig, sut i adnabod yr arwyddion a’r ymddygiad a beth i’w wneud i ymateb.

Dywedodd Kelly Matulla o Gorwel: “Cawsom ddiwrnod cadarnhaol iawn gyda Huw a thîm CPD Caernarfon. Roedd yn wych siarad â phobl am reolaeth  a cham-drin domestig, ei effaith ar deuluoedd a rhannu gwybodaeth am ein gwaith. Rydyn ni’n edrych ymlaen at wneud mwy gyda’n gilydd yn y dyfodol.”

 

Dywedodd Huw Griffiths, rheolwr Tîm Cyntaf Caernarfon: “Roedd yn wych cael Kelly a Sioned hefo ni – mi wnaethon ni ddysgu llawer a byddwn yn teimlo’n fwy hyderus rŵan  i godi pryderon a helpu pobl i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Rydan ni’n  edrych ymlaen at gefnogi’r ymgyrch a gwisgo ein rhubanau gwyn gyda balchder.”

Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Rwy’n falch bod Gorwel yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill yn yr ardal i godi ymwybyddiaeth o arwyddion ac effaith cam-drin domestig. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r mater hwn yn ein cymuned ac rwy’n falch o’n tîm sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’r menywod, dynion a phlant sy’n cael eu heffeithio.”

Dywedodd Tess,* sydd wedi’i chefnogi gan Gorwel, wrthym am ei phrofiadau o reolaeth drwy orfodaeth a thrais domestig:  “Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn gallu ei weld ac un diwrnod roeddwn i’n siarad â fy mhennaeth a mi ddywedodd wrtha i  wrthyf, cam-drin ydi hyn.”

Mae Tess yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallan nhw fod mewn sefyllfa debyg i gysylltu â Gorwel: “O  fy mhrofiad i, rydych chi’n brwydro  yn ôl ar y dechrau ond ar ôl ychydig rydych chi jest eisiau  llonydd a ddim yn trafferthu  dadlau yn ôl. Ond peidiwch ag aros yn dawel – ewch i gael help. Alla i ddim diolch digon i’m gweithiwr cymorth. Roedd fy nghyn bartner  yn rheoli popeth – fy arian, fy amser, a oeddwn i’n gwisgo colur. Fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth fy helpu i roi trefn ar fy arian ac ailadeiladu fy hyder. Heb Gorwel, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i yma nawr.”

* Enw wedi’i newid i ddiogelu.

Nodiadau: Mae Gorwel yn uned o fewn Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau cymorth dwyieithog i bobl sy’n wynebu sefyllfaoedd anodd gyda ffocws arbennig ar daclo cam-drin domestig ac atal digartrefedd. Mae wedi’i wreiddio yng nghymunedau gogledd Cymru ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych.

Mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Trais yn Erbyn Menywod. Mae ymgyrch eleni – #TheGoal – yn dod â dynion a bechgyn at ei gilydd i feddwl am sut y gallant wneud gwahaniaeth cadarnhaol i sicrhau cydraddoldeb a diogelwch i fenywod a merched.

Am ragor o wybodaeth am hyn neu unrhyw elfen arall o’n gwaith, neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin Mari.Williams@grwpcynefin.org / cyfathrebu@grwpcynefin.org 07970 142 305

Cookie Settings