Cytundeb i ddarparu rhaglen ôl-osod ar draws gogledd Cymru ar agor i gontractwyr

Mae Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru yn gobeithio penodi prif gontractwr i ddarparu rhaglen ôl-osod (retrofit) gwerth £8.5m o waith ar gyfer tai cymdeithasol ar draws gogledd Cymru.
Hyd y contract cychwynnol yw 12 mis gydag opsiwn i ymestyn i  24 mis arall.
Bydd y contractwr llwyddiannus yn cyflawni gwaith ôl-osod ledled y rhanbarth, gan weithio gyda Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru  i leihau ôl troed carbon eu  cartrefi, yn ogystal â helpu i fynd i’r  afael â’r argyfwng costau byw drwy leihau’r defnydd o ynni.
Mae’r rhaglen  wedi’i hariannu’n rhannol drwy Raglen Ôl-osod Optimeiddio Llywodraeth Cymru.
Rhaid i’r gwaith gael ei gyflwyno yn unol â safonau PAS 2035 a 2030, a bydd yn cynnwys gosod systemau megis systemau gwresogi trydan effeithlon, paneli solar ac insiwleiddio.
Dywedodd Ceri Davies, Arweinydd Rhaglen Arloesedd a Thwf, Grŵp Cynefin: “Rydyn ni’n chwilio am brif gontractwr i weithio hefo ni a Thai Gogledd Cymru i gyflawni un o’n blaenoriaethau fel cymdeithasau tai – addasu ein stoc dai i fod yn gartrefi carbon isel, ynni effeithlon, gwell i’n tenantiaid a gwell i’r amgylchedd.
“Mae’n gytundeb mawr a dylai’r rhai sydd â diddordeb wneud cais trwy Sell2Wales.”

Whole House Energy Efficiency Retrofit 2023 – Find a Tender (find-tender.service.gov.uk)

Ymholiadau’r wasg i Mari Williams

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

mari.williams@grwpcynefin.org

07970 142 305

Cookie Settings